Y Cae Ras (Gwefan Clwb Wrecsam)
Fe fydd cae pêl-droed Wrecsam yn cael ei alw’n Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr o heddiw ymlaen.
Fe brynodd y sefydliad addysg uwch y stadiwm am £1.8 miliwn rai wythnosau yn ôl.
Mewn cyfweliad gyda phapur y Daily Post, fe eglurodd is-ganghellor y brifysgol, Michael Scott, y rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad i brynu’r stadiwm.
“Roedd llawer iawn o bryder yn Wrecsam am sefyllfa’r clwb, felly fe weithredon ni’n sydyn wrth brynu’r Cae Ras. Mae’r stadiwm yn rhan enfawr o’r gymuned leol, ac fe allai fod yn ased gwych i ni fel prifysgol hefyd,” meddai.
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn parhau i drafod cytundeb er mwyn cymryd rheolaeth o’r clwb pêl-droed, ond doedd ganddyn nhw ddim arian i brynu’r Cae Ras gan Geoff Moss ac Ian Roberts, perchnogion presennol y clwb.
Dywedodd Michael Scott fod y brifysgol wedi prynu’r tir er mwyn defnydd cymunedol ac addysgiadol yn unig.
Ond mae hefyd wedi datgan ei awydd i arbed traddodiad a threftadaeth y clwb drwy weithio’n agos gyda’r darpar berchnogion newydd pan gaiff trosglwyddiad y clwb ei gadarnhau.
“Rydyn ni’n mynd i gynnal dysgu ym maes gwyddorau chwaraeon yno, cynadleddau, cyrsiau addysg a busnes, cyfleusterau hyfforddi, arlwyaeth, urdd y myfyrwyr a mwy. Buasai’n braf petai ni’n medru rhoi undeb y myfyrwyr yno hefyd,” meddai Michael Scott.
“Mae’n bosib rhoi trac athletau o amgylch y cae hefyd. Mae yna amryw o bosibiliadau, ond bydd rhaid aros tan ar ôl y gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf er mwyn cael y cyllid.”
Ond pwysleisiodd mai pêl-droed fydd yn cael y flaenoriaeth.
“Bydd clwb pêl-droed Wrecsam yn cael cadw elw eu gemau i’w hunain.
“Mi fyddai’n well gennym beidio â gorfod cymryd rhent gan y clwb pêl-droed am ddefnyddio’r stadiwm, ond fe fydd rhaid aros i weld beth fydd yn digwydd.
“Yn amlwg, mae gennym ni gyfrifoldebau fel prifysgol, a fedrwn ni ddim ariannu’r clwb. Efallai y bydd modd trefnu cytundeb gyda hawliau marchnata a hysbysebu neu rywbeth.
“Byddwn ni’n ei alw’n Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr er mwyn i’r lle gael cadw ei hunaniaeth wrth fabwysiadu hunaniaeth y brifysgol hefyd.”