Sam Warburton
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi enwi ei garfan 30 dyn ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Mae Sam Warburton yn gapten ar y sgwad, yn absenoldeb Matthew Rees.

Mae Martyn Williams a Gavin Henson wedi eu gadael allan, ond mae lle i Andy Powell a Ken Owens.

Mae yna 16 o flaenwyr ac 14 o gefnwyr yn y sgwad:

Sam Warburton, Huw Bennett, Ryan Bevington, Lloyd Burns, Luke Charteris, Bradley Davies, Toby Faletau, Paul James, Gethin Jenkins, Adam Jones, Alun-Wyn Jones, Ryan Jones, Dan Lydiate, Craig Mitchell, Ken Owens, ac Andy Powell yw’r blaenwyr.

Y cefnwyr yw Aled Brew, Lee Byrne, Jonathan Davies, Leigh Halfpenny, James Hook, Stephen Jones, Tavis Knoyle, George North, Mike Phillips, Rhys Priestland, Jamie Roberts, Lloyd Williams, Scott Williams, Shane Williams.

Gobeithion Cymru

Dywedodd Gareth Edwards, un o gyn gewri Cymru, wrth Golwg 360 nad oedd yn credu fod llawer o ddewis gan Warren Gatland mewn sawl safle.

“Mae llawer o’r tîm yn dewis ei hun,” meddai. “A dweud y gwir does dim llawer o ddewis  gyda ni mewn sawl safle. Dydyn ni ddim mor gryf â hynny.”

“Mae’r paratoadau wedi bod yn dda o ran ffitrwydd a rhoi amser i’r bois chwarae gyda’i gilydd a magu hyder,” meddai.

“Ond mae gemau anodd iawn o’u blaen. Rhaid i ni beidio â disgwyl gormod oherwydd ein bod ni wedi curo Lloegr. Dydi perfformiadau’r gemau paratoadol ddim yn golygu y byddwn ni’n medru mynd mas yno a chystadlu.

“Cyrraedd y chwarteri yw’r flaenoriaeth gyntaf,” meddai Gareth Edwards, “ac wedyn fe gawn ni weld wedi hynny.

“Rhaid cymryd un cam ar y tro, ond wnawn ni ddim ennill. Rydyn ni’n tueddu i godi’n gobeithion yn rhy uchel ac yn dod yn ôl wedi ein siomi.”

Mae’r sylwebydd Alun Wyn Bevan yn fwy gobeithiol.

“Mae’n mynd i fod yn her, pwy bynnag yr ydyn ni’n ei chwarae,” meddai.

“Seland Newydd yw’r ffefrynnau wrth gwrs, ond gall unrhyw beth ddigwydd mewn un gêm. Dw i’n credu fod gan Gymru’r gallu i guro unrhyw un ar eu dydd.”

Diwedd gyrfa Martyn Williams?

Mae’n debygol fod Martyn Williams wedi cyrraedd pen y daith yng nghrys coch Cymru.

Roedd yn gapten yn erbyn yr Ariannin ddydd Sadwrn ond fe fydd yn ymddeol ar 99 cap os nad yw’n cael ei ailw i’r sgwad i ddosodli chwaraewr sydd ag anaf.

Dywedodd Warren Gatland mai llenwi’r rheng-ôl oedd ei benderfyniad anoddaf, a fod tua 10 chwaraewr yn chwarae am saith safle.

Mae Martyn Williams wedi ei adael allan ond bydd Andy Powell yn teithio i Seland Newydd ar ôl sgorio cais yn erbyn yr Archentwyr ddydd Sadwrn.

Mae Jonathan Thomas, Justin Tipuric, Josh Turnbull a Gareth Delve hefyd wedi’u siomi ar ôl methu a chael eu cynnwys ymysg y 30 olaf.

Ni ddechreuodd yr un ohonynt y gemau yn erbyn Lloegr a’r Ariannin dros yr wythnosau diwethaf.

Mae’n bosib mai’r penderfyniad i adael Delve fydd yn peri y mwyaf o syndod, wedi iddo gael ei enwebu’n chwaraewr y tymor gyda’r Melbourne Rebels yn ei flwyddyn gyntaf yn Awstralia’r llynedd.

Ond dywed tîm hyfforddi Cymru nad oedd Delve wedi chwarae digon o rygbi gan ei fod yn adfer o anaf i’w ben glin.

Owens ar yr awyren

Mae cyn-gapten Cymru, Matthew Rees, eisoes wedi gorfod tynnu allan oherwydd anaf i’w wddf. Gorfu i Richard Hibbard hefyd dynnu allan wedi iddo anafu ei ffêr yn y gêm baratoi derfynol yn erbyn Yr Ariannin dros y penwythnos.

Mae hynny’n golygu mai dim ond tri bachwr holliach oedd ar gael i Gatland eu cynnwys yn y garfan – Huw Bennett, Lloyd Burns a Ken Owens.

Owens o’r Scarlets yw’r unig chwaraewr sydd wedi’i gynnwys sydd heb ennill cap dros Gymru. Ond dywed Alun Wyn Bevan ei fod yn hapus i’w weld yn y garfan.

“Dw i’n rhyfeddu nad oedd Ken Owens wedi cael cyfle o gwbl hyd yn hyn. O ystyried gwendid Cymru yn y lein, mae angen rhywun fel Owens arnom ni,” meddai.

Mae Adam Jones a Gethin Jenkins wedi eu cynnwys er gwaethaf anafiadau ac amheuon na fydd Jenkins yn gwella mewn pryd i wynebu’r Springboks ar 11 Medi.

“Gan fod cymaint o broblemau gyda ni yn y rheng flaen, dwi’n credu dylai rhywun fel Iestyn Thomas o’r Scarlets fod wedi cael cyfle. Mi fyddai fe’n gallu llenwi bwlch a gwneud job i’r tîm,” meddai Alun Wyn Bevan.

Pendroni dros Peel

Doedd dim lle i Henson wedi iddo ddatgymalu asgwrn yn ei arddwrn yn yr ail gêm yn erbyn Lloegr ar 13 Awst. Roedd y tîm hyfforddi eisoes yn gwybod na fyddai’n gallu bod nôl mewn pryd ar gyfer y gemau grŵp.

Yn ei absenoldeb mae lle i Scott Williams, 21, o’r Scarlets, ac fe gaiff Aled Brew o’r Dreigiau hefyd deithio.

Mae Lee Byrne yn y garfan derfynol er iddo fod yn gyfrifol am sawl camgymeriad yn erbyn Yr Ariannin ddydd Sadwrn.

Roedd hefyd amheuon gan tai ynglŷn â pheidio â chynnwys Dwayne Peel yn y paratoadau ac i fynd a dau chwaraewr ifanc, Tavis Knoyle a Lloyd Williams, sy’n gymharol ddibrofiad yn ei le.

Dywedodd tîm hyfforddi Cymru fod Peel wedi’i ddiystyru oherwydd ei fod wedi’i anafu, ond mae clwb Peel, Sale Sharks, wedi honni ei fod yn holliach.

“Mae beth sydd wedi digwydd i Peel yn siomedig,” meddai Alun Wyn Bevan.

“Dw i ddim yn deall beth sydd wedi digwydd, ond mae yna rywbeth yn mynd ymlaen nad ydyn ni wedi cael gwybod amdano.”