Mae dyn wedi marw’r bore ma ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger y Bala.
Tarodd Ford Focus arian y tryc Man ar yr A4212 am 7.25am.
Fe fu farw gyrwyr y Ford Focus, oedd yn ddyn yn ei 20au, yn y fan a’r lle.
Mae’r heddlu yn dargyfeirio gyrwyr ar hyd ffyrdd eraill.