Mae siopau Cymru wedi dioddef cwymp mawr yn nifer eu cwsmeriaid dros gyfnod yr haf, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.
Yn ôl y Consortiwm Manwerthu Prydeinig roedd nifer y cwsmeriaid oedd yn mynychu siopau Cymru 9.2% yn is rhwng mis Mai a mis Gorffennaf eleni na’r un cyfnod y llynedd.
Roedd y cwymp yn fwy nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac yn llawer is na’r cyfartaledd ar draws y Deyrnas Unedig, sef cwymp o 1%.
Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos fod 13.4% o siopau Cymru yn wag. 11.2% yw’r cyfartaledd ar draws Prydain, a Gogledd Iwerddon sydd â’r nifer mwyaf o siopau gwag, sef 17.1% o’r cyfanswm.
Dywedodd y Consortiwm Manwerthu Prydeinig fod nifer uwch o bobol yng Nghymru yn ddibynnol ar swyddi yn y sector gyhoeddus.
Roedd y rheini yn torri nôl oherwydd ansicrwydd a fyddai eu swyddi yn goroesi toriadau ariannol y llywodraeth, medden nhw.
‘Cymru’n dioddef’
Ym mhob rhan o Brydain, roedd 1.9% yn llai wedi ymweld â siopau ar gyrion trefi a dinasoedd rhwng mis Mai a mis Gorffennaf.
Roedd 2.6% yn llai ar gyfartaledd wedi bod yn mynd i siopau ar y stryd fawr.
Ond roedd 0.6% yn fwy wedi bod yn mynd i ganolfannau siopau.
“Mae’r ffigyrau yn dangos gwahaniaeth mawr yn iechyd siopau mewn gwahanol rannau o’r wlad,” meddai Stephen Robertson o’r Consortiwm Manwerthu Prydeinig.
“Mae’r ffigyrau yn dangos mai’r rhannau o Brydain lle mae’r sector gyhoeddus ar ei gryfaf sy’n dioddef.
“Mae Cymru a Gogledd Iwerddon wedi dioddef yn fwy na’r lleill.
“Mae pobol yn mynd i siopa llai oherwydd pryderon ynglŷn â’u swyddi a’r toriadau, ac felly mae mwy o fusnesau yn cau i lawr.
“Mae cartrefi yn wynebu ansicrwydd ynglŷn â swyddi, cyflogau sydd ddim yn tyfu a chwyddiant sy’n gyrru prisiau i fyny..
“Ym mis Gorffennaf roedd lai yn siopa ar draws y Deyrnas Unedig, ac roedd hynny cyn y terfysg yn Lloegr.”