Wedi chwarter canrif ym Mryste mi fydd y diwrnod ola’ o ffilmio Casualty yn Lloegr heddiw, cyn i’r rhaglen boblogaidd symud i Gaerdydd fis nesa’.

Tra bo’r BBC eisiau cael eu gweld yn datganoli gwaith teledu i’r ‘rhanbarthau’, mae ofnau ym Mryste y bydd colli Casualty yn glec i’r economi.

Yn bodoli ers 1986, mae Casualty wedi cyfrannu miliynau o bunnau i fusnesau ym Mryste ac wedi darparu cannoedd o swyddi i actorion a thechnegwyr.

 “Bryste fu cartre’ Casualty am 25 mlynedd, ac mae wedi bod yn ased gwerthfawr i’n rhanbarth ni,” meddai Mahjabeen Price o gorff South Wesy Screen wrth BBC Bristol.