Mae Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru yn rhybuddio y bydd eu gwaith o oruchwylio’r Gwasanaeth Iechyd yn diodde’, os bydd gofyn iddyn nhw gyfieithu pob dogfen fewnol i’r Gymraeg.

Bydd Cyfarwyddwr y Cynghorau Iechyd yn dweud wrth y Gweinidog Iechyd bod angen mwy o arian os oes disgwyl i’r corff gyfieithu popeth.

Mae’r Cynghorau Iechyd wedi bod yn trafod eu Cynllun Iaith gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ers blwyddyn, ac maen nhw’n dweud bod y Bwrdd yn disgwyl iddyn nhw anelu at gyfieithu pob dogfen fewnol ac allanol.

Yn ôl Cyfarwyddwr y Cynghorau Iechyd yng Nghymru maen nhw’n cefnogi dwyieithrwydd, ond mae gofyn iddyn nhw gyfieithu popeth ar bapur i’r Gymraeg yn “afrealistig”.

“Rydan ni’n derbyn cyn lleied o nawdd,” meddai Carol Davies y Cyfarwyddwr, “os fydd gofyn i ni gydymffurfio’n llwyr gyda Deddf yr Iaith Gymraeg bydd rhywbeth yn cael ei golli o safbwynt ein dyletswyddau statudol i gadw llygad ar y Gwasanaeth Iechyd.”

Nid yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn fodlon dweud pa ofynion ieithyddol maen nhw wedi eu gosod ar y Cynghorau Iechyd, am bod trafod cynnwys Cynlluniau Iaith cyn eu cytuno a’u cyhoeddi yn groes i’w polisi, meddan nhw.