Yr Arlwyydd Assad (Rkkar CCA3.0)
Mae Syria wedi gwrthod galwad gwledydd mawr y Gorllewin ar i Arlywydd y wlad ymddiswyddo oherwydd yr helyntion yno.

Maen nhw’n dweud ei fod wedi colli pob hawl i reoli ar ôl nifer o ymosodiadau ar bobol sy’n protestio yn ei erbyn.

Fe ddaeth yr alwad gynta’ gan yr Arlywydd Obama yn yr Unol Daleithiau neithiwr pan gyhuddodd Bashar al-Assad  o “garcharu, poenydio a lladd ei bobol ei hun”.

“Er lles pobol Syria, mae’r amser wedi dod i’r Arlywydd Assad gamu o’r neilltu,” meddai.

Fe gafodd ei alwad ef ei dilyn gan ddatganiad ar y cyd gan arweinwyr y Deyrnas Unedig, Ffrainc a’r Almaen.

‘Grym milwrol ciaidd’

“Mae ein tair gwlad yn credu bod yr Arlywydd Assad, sy’n defnyddio grym milwrol ciaidd yn erbyn ei bobol ei hun ac sy’n gyfrifol am y sefyllfa, wedi colli pob hawl i arwain y wlad,” meddai David Cameron, Nicolas Sarkozy ac Angela Merkel.

Mae’r Undeb Ewropeaidd hefyd wedi galw ar i’r Arlywydd ymddiswyddo.