Jac John a Leonard Worsell, a fu farw
Yfory fe fydd hi’n union 100 mlynedd ers y brotest fawr pan fu farw dau ddyn ifanc diniwed yn Nhre’r Sosban.

Mae galw ar y Lywodraeth Prydain i gynnig ymddiheuriad swyddogol ar ôl marwolaeth y ddau ddyn ynghanol Llanelli ganrif yn ôl.

Ynghanol protest yn ystod streic rheilffordd ym mis Awst 1911, cafodd dau ddyn, nad oedd yn rhan o’r streic na’r brotest, eu lladd gan filwyr a anfonwyd yno gan lywodraeth y dydd.

Mae’r dyn sydd wedi sgrifennu’r unig lyfr awdurdodol ar y digwyddiad yn credu bod achlysur y canmlwyddiant nawr yn gyfle da i ofyn am ymddiheuriad.

“Doedd y ddau a laddwyd ddim yn weithwyr rheilffordd a doedden nhw chwaith ddim yn rhan o’r brotest a oedd yn digwydd ar y pryd,” meddai John Edwards.

“Doedd dim angen galw am filwyr o gwbl. Ond roedd un dyn lleol, yng nghanol nos, wedi galw am help milwyr –  Thomas Jones, yr ustus heddwch a oedd yn berchen ar nifer o dai yn Llanelli yn ogystal â busnes groser mawr – ac yn un o gyfranddalwyr y Great Western Railway!”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 18 Awst