Tato newy'
Mae cynhyrchwyr tatws newydd Sir Benfro sy’n gwerthu eu cnwd yn Lloegr wedi gweld cwymp sylweddol yn y farchnad.

Roedd ffermwyr tatws y sir yn cwrdd i drafod y broblem yn Sioe Sir Benfro’r wythnos yma, gan ddweud fod prisiau’n waeth nag ers blynyddoedd.

Tywydd gwael yn y gorllewin o’i gymharu â misoedd sych yn nwyrain Lloegr sy’n cael y bai.

Yn ôl Walter Simon sydd – fel ei dad o’i flaen – yn ffermio 130 erw o gaeau tatws ar fferm i’r gogledd o Benfro, mae’r pris mae’n ei dderbyn am dunnell o datws sy’n cael eu pacio a’u bwyta dros Glawdd Offa wedi bron â haneru’n ddiweddar.

“Yn draddodiadol, oherwydd yr hinsawdd fwyn, mae tatws Sir Benfro yn barod i’w tynnu ynghynt na thatws Lloegr,” meddai Walter Simon.

“Ond mae’r tywydd wedi bod yn fwynach yn nwyrain Lloegr eleni. Y llynedd roeddwn i’n cael £140 y dunnell ond mae’n nes at £80 eleni – mae’n cymryd peth amser i’r farchnad sylweddoli bod gormod o gynnyrch ac wedyn cwympo. Dyma’r prisiau gwaethaf ers pum mlynedd.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 18 Awst