Mae’r cyfnod mwya’ peryg ar gyfer yr achosion o e-coli yn ne Cymru bron â dod i ben.
Ond mae swyddogion iechyd cyhoeddus yn dal i rybuddio pobol i fod yn wyliadwrus ac i fynd am gymorth ar unwaith os byddan nhw’n diodde’ o symptomau’r haint.
Erbyn hyn mae saith o achosion wedi’u cadarnhau gyda thri o bobol yn yr ysbyty, ond yn gwella, ar ôl i’r haint gael ei nodi ganol yr wythnos ddiwetha’.
Mae bwyty cebabs Adonis yn Heol y Ddinas, Caerdydd, yn parhau ynghau rhag ofn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynghorau Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf ymchwilio i’r amgylchiadau.
‘Rhwng tri a phedwar diwrnod’
“Gall y cyfnod magu ar gyfer E.coli O157 amrywio o un i 14 niwrnod, ond yn nodweddiadol mae rhwng tri a phedwar diwrnod,” meddai Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Byddem yn disgwyl gweld rhagor o achosion drwy gydol y cyfnod hwn, hyd yn oed ar ôl i darddiad y salwch gael ei nodi a’i ddileu.”
Mae e.coli 157 yn achosi poenau yn y stumog a dolur rhydd ac, mewn rhai achosion, fe all arwain at niwed drwg i’r arennau.