Roedd Alun ffred Jones yn allweddol wrth greu swydd newydd y Comisiynydd Iaith
 Mae’n “allweddol” bod y Comisiynydd Iaith newydd yn gwrando ar lais y rhai hynny sy’n defnyddio a dymuno gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyna rybudd Llais Defnyddwyr Cymru heddiw ar ddiwrnod pan mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisio am swydd y Comisiynydd Iaith.

Cafodd y swydd ei chreu ar gyflog o £95,000 fel rhan o Ddeddf Iaith newydd Llywodraeth Cymru, er mwyn ceisio sicrhau mwy o hawliau i’r Cymry Cymraeg..

“Yr hyn sy’n allweddol i sicrhau bod deddfau newydd ynglŷn â’r Gymraeg yn gweithio yw gofyn i ddefnyddwyr beth maent yn dymuno ei gael, a gwrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud,” meddai Rebecca Thomas, Rheolwr Polisi Llais Defnyddwyr Cymru.

“Gall rôl y Comisiynydd newydd fod yn bwerus iawn, ond os nad yw’n gwrando ar yr hyn y mae defnyddwyr yn dymuno ei gael, mae perygl y byddant yn creu gwasanaethau na fydd neb yn eu defnyddio.

Angen annog defnydd

 Fe fydd angen i’r Comisiynydd Iaith newydd ddod o hyd i ffyrdd o gael y Cymry Cymraeg i wneud mwy o ddefnydd o’u hiaith, yn ôl Rebecca Thomas.

“Mae siaradwyr Cymraeg yn dweud eu bod am ddefnyddio mwy ar wasanaethau Cymraeg nag y maent mewn gwirionedd,” meddai.

“Felly, mae’n amlwg bod rhwystrau cudd sy’n atal pobl rhag cael gafael ar wasanaethau – yn y sector preifat ac yn y sector cyhoeddus – y bydd angen i’r ddeddfwriaeth, a’r Comisiynydd, fynd i’r afael â hwy.”