Gavin Henson
Mae Cymru wedi cyhoeddi’r tîm a fydd yn wynebu Lloegr yn eu hail gêm gyfeillgar yn Stadiwm y Mileniwm ar Ddydd Sadwrn.
Dim ond llond llaw o newidiadau sydd i’r tîm ddaeth o fewn trwch blewyn i faeddu Lloegr yn eu gêm gyntaf y penwythnos diwethaf.
“Rydyn ni angen ennill y penwythnos yma – mae hi mor syml â hynny,” meddai Warren Gatland.
“Rydyn ni wedi dweud wrth y chwaraewyr fod rhaid i ni guro Lloegr gartref y penwythnos yma os ydym ni am i bawb sylweddoli y byddwn ni’n fygythiad yn ystod Cwpan y Byd.
“Rydyn ni wedi cadw’r mwyafrif o’r tîm deithiodd i Lundain yr wythnos diwethaf. Mae yna un neu ddau o chwaraewyr yr ydyn ni wedi penderfynu rhoi cyfle iddynt, ond rydyn ni wedi penderfynu peidio gwneud newidiadau mawr er mwyn gallu ennill y gêm.”
Ni fydd Adam Jones yn chwarae wrth iddo barhau i wella o anaf i fys ei droed. Roedd disgwyl iddo gymryd rhan, ond fe fydd o yn ogystal â Lee Byrne (sydd wedi brifo ei ben glin) ar yr ystlys.
Caiff Gavin Henson ei gyfle i greu argraff wrth iddo gael ei ddewis i chwarae gyda Jamie Roberts yng nghanol y cae, ac fe fydd James Hook yn cymryd lle Morgan Stoddart yn gefnwr.
Bydd Lloyd Burns yn safle’r bachwr a Luke Charteris yn yr ail reng. Bydd Rhys Priestland yn parhau yn safle’r maswr yn absenoldeb Stephen Jones.
Mae Dan Lydiate, Sam Warburton a Toby Faletau yn cychwyn eu trydedd gêm yn olynol yng nghefn y pac.
Ond bydd Gatland yn siŵr o bryderu am dri o’i flaenwyr dewis cyntaf, mid yn unig cyn dechrau’r bencampwriaeth.
Mae Adam Jones, Matthew Rees a Gethin Jenkins oll yn brwydro i ail-ennill eu ffitrwydd llawn wedi anafiadau.
Cymru
15 cyntaf: James Hook; George North; Jamie Roberts, Gavin Henson; Shane Williams; Rhys Priestland, Mike Phillips; Paul James, Lloyd Burns, Craig Mitchell, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton, Toby Faletau
Eilyddion: Huw Bennett, Ryan Bevington, Josh Turnbull, Justin Tipuric, Tavis Knoyle, Scott Williams, Aled Brew
Lloegr
Mae Lloegr, ar y llaw arall, wedi penderfynu gwneud 13 o newidiadau ar gyfer yr ail ornest. Dyma’r tîm cyhoeddwyd ganddynt heddiw :
15 cyntaf: Ben Foden; Chris Ashton; Mike Tindall; Shontayne Hape; Mark Cueto; Toby Flood; Richard Wigglesworth; Alex Corbisiero; Steve Thompson; Dan Cole; Louis Deacon; Courtney Lawes; Tom Wood; Hendre Fourie; Nick Easter.
Eilyddion: Lee Mears; Matt Stevens; Tom Palmer; James Haskell; Danny Care; Charlie Hodgson; Matt Banahan.