Terfysg yn Llundain
Cafodd merch o Sir Gaerfyrddin ei chaethiwo ar fws wrth i dorf ei amgylchynu yn Llundain neithiwr.

Dywedodd Gwenllian Higginson, sy’n actores ac yn byw yn Llundain ers bron i bedair mlynedd, ei bod yn teithio trwy Lewisham tua 6pm neithiwr pan ddechreuodd y terfysg yno.

“Fe ddechreuodd e’n gynt na beth o’dd unrhyw un yn disgwyl,” meddai Gwenllian Higginson, sydd o Llanwinio yn wreiddiol.

Dywedodd ei bod hi wedi gweld y terfysg yn Tottenham ar y newyddion ond heb ddychmygu y byddai’n cyrraedd ei hardal hi.

“Do’dd yr heddlu ddim yn barod amdano fe chwaith,” meddai.

Mae Gwenllian Higginson yn byw yn Catford, sydd ger Lewisham, yn ne-ddwyrain Llundain, ond mae hi bellach ar ei ffordd yn ôl i Gymru, ar ôl dal bws y bore ’ma.

“Ro’n i wedi bwriadu dod yn ôl cyn hir beth bynnag, ond mae’n amseru da cael gadael heddi,” meddai.

“Y peth sydd yn ’y mhoeni i yw bo fi ddim yn gwbod beth fydda i’n dod ’n ôl iddo fe wedyn.”

‘Dim cydymdeimlad’

Roedd Gwenllian Higginson ar ei ffordd i Deptford pan amgylchynwyd y bws yr oedd hi’n teithio arno, ar ôl atal wrth oleuadau traffig.

“Aeth popeth yn wyllt,” meddai. “Roedd bechgyn a pobol ifanc wedi eu cynhyrfu a’u heipo lan, tra bod plant bach yn llefen a menywod yn sgrechen.”

Pan ddechreuodd y dorf guro ar ochrau’r bws, fe ddechreuodd rhai bechgyn ifanc yng nghefn y bws gymeradwyo a gweiddi.

“Ro’dd dau grwt ifanc yng nghefn y bws wedi ecseito’n lân – bechgyn lleol dwi’n meddwl – heb ddim cydymdeimlad o gwbwl ’da’r fenyw, â’r babi yn ei braich, yn llefen ar y llawr yn ganol y bws,” meddai.

Roedd dwy ferch ifanc yn eistedd gerllaw Gwenllian ar y bws ar y pryd, y ddwy heb fod hyd yn oed yn eu harddegau.

“Rhyw 12 oed oedd yr hynna’,” meddai. “O’dd hi’n trial ffonio’i mam hi, ac yn sgrechen lawr y ffôn… Rhoies i ’mraich rownd iddyn nhw, ond o’dd dim byd allen i neud i helpu.”

Wrth eistedd ar y bws, gallai weld tanau yn cychwyn o’u chwmpas, a dynion yn chwifio cyllyll tu allan.

“R’odd e’n wallgo,” meddai, “o’dd dim trefn, dim rheolau – fel petai cymdeithas wedi torri lawr.

“Os fydden nhw’n penderfynu peidio dilyn y rheolau, bydde dim byd galle unrhyw un wneud. Ma’ miloedd ohonyn nhw i gymharu da’r heddlu.”

Ofni Llundain

Yn ôl Gwenllian, roedd yna drawsdoriad o derfysgwyr a phobol gyffredin yng nghanol y stryd yn Lewisham.

“Ro’dd y pobol ar y stryd unai wedi eu cyffroi neu’n hystreical,” meddai.

“Dwi wedi bod yn byw yn Llundain ers bron i bedair blynedd, a dwi byth wedi ofni’r lle fel hyn o’r blaen.”

Bu’n rhaid i’r gyrrwr bws yrru drwy’r goleuadau traffig yn y diwedd, cyn troi yn ôl, ac fe adawodd Gwenllian y bws er mwyn ceisio cael tacsi.

“Ond do’dd dim tacsis yn fodlon mynd â fi,” meddai, “ro’n nhw bron yn chwerthin ar ’y mhen i am ofyn.”

‘Pobol ddiniwed’

Pan gyrhaeddodd Gwenllian ei thŷ yn Catford ychydig yn ddiweddarach, ar ôl cerdded ar hyd y strydoedd cefn i osgoi’r terfysg, roedd seirens i’w clywed dros yr ardal i gyd, a mwg a thân i’w gweld yn awyr y nos.

“Ro’n i’n gallu gweld y mwg o’n ’stafell wely i,” meddai, “ac ro’dd y seirens yn mynd drwy’r nos, ac yn dal i fynd pan godes i’r bore ’ma.”

Yn ôl Gwenllian, pobol yn chwilio am esgus i fynd yn wyllt oedd llawer o’r rheini a welodd hi yn Lewisham.

“Dy’n nhw ddim yn ymosod ar bobol hyd yn hyn,” meddai, “ond ma’ rwbeth yn mynd i ddigwydd… ma’ pobol ddiniwed yn mynd i ga’l dolur.”