Mae gwyddonwyr o Gymru yn dweud eu bod nhw wedi darganfod pam fod dynion yn fwy ymosodol a byrbwyll na merched.
Dywedodd y gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd fod gan ddynion lai o sylwedd sy’n cael ei gynhyrchu yn naturiol yn ein hymenyddiau ac sy’n rheoli ein hymddygiad.
Gan ddefnyddio’r dechnoleg sganio diweddaraf mae’r gwyddonwyr wedi darganfod fod cysylltiad rhwng byrbwylledd a niwrodrosglwyddydd penodol ‘GABA’.
Dywedodd Dr Frederic Boy o Ganolfan Delweddu Ymenyddiau Prifysgol Caerdydd ei fod bellach yn bosib gweld sut y mae gwahanol rannau o’r ymennydd yn rheoli ymddygiad pobol.
Roedd gan rai dynion llai o’r niwrodrosglwyddydd ‘GABA’ yn eu hymenyddiau oedd yn gwneud iddyn nhw ymddwyn mewn modd mwy ymosodol, meddai.
Roedd y gwyddonwyr wedi astudio myfyrwyr israddedig oedd heb ddioddef o unrhyw salwch meddyliol na chwaith yn ddibynnol ar gyffuriau.
“Mae byrbwylledd yn arwydd cryf o anhwylder seiciatrig,” meddai Frederic Boy.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymchwil yma yn arwain at astudiaethau pellach fydd yn pontio’r bwlch rhwng astudiaethau genetig a’r astudiaethau i anhwylderau seiciatrig.”