Bydd Piers yn gwylio gêm Cymru a Lloegr heddiw
Mae Croeso Cymru wedi galw ar bobl y wlad i helpu yn yr ymdrech i ddod ag un dyn i Gymru yr haf hwn.
Heddiw, bydd Piers Bramhall yn deffro i sŵn côr meibion yn canu anthem Cymru y tu allan i’w fflat yn Llundain.
Wedyn, bydd pen-cogydd o Gymru, Bryn Williams, yn benthyg ei gegin er mwyn coginio brecwast iddo, a bydd Joanna Page yn ei weini.
Wedi hynny, aiff Piers ati i ddysgu’r anthem ar ei ffordd i gêm rygbi Cymru a Lloegr yn Twickenham lle caiff ei groesawu gan Gymry enwog.
Dyw hwn ddim yn ddiwrnod arferol i Piers, yr heliwr pennau sydd wedi cael ei hela ei hunan yn annisgwyl a’i daflu i sylw’r cyhoedd, fel rhan o ymgyrch farchnata Croeso Cymru eleni.
Mae’n rhan o ymgyrch fawr gan Croreso Cymru er mwyn annog Piers Bramhall i ymweld â Chymru.
Y gobaith yw y bydd Piers yn dod i Gymru am wythnos o wyliau ym mis Medi. Caiff ei ffilmio ar gyfer yr hysbyseb deledu Croeso Cymru newydd a fydd yn lansio ym mis Ionawr.
Os ydyn nhw’n llwyddo i’w argyhoeddi, y cyhoedd yng Nghymru fydd yn gyfrifol am ddweud wrtho ble i fynd, beth i’w weld a’i wneud a lle i fwyta.
Mae tudalen Facebook wedi’i chreu yn www.facebook.com/visitwales lle gall pobl adael negeseuon, clipiau fideo neu luniau i Piers a’i bartner, Emma.
“Pobl Cymru sy’n adnabod ac yn caru’r wlad ac sy’n gwybod beth sy’n gwneud Cymru yn lle mor rhagorol i fynd ar wyliau,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
“Rydyn ni am ichi awgrymu lleoedd i Piers ymweld â nhw yn ystod ei daith. Rydyn ni am i Piers wybod pa mor arbennig y gall Cymru fod, ac rydyn ni am i chi ddweud wrtho.”
Ynglŷn â’r dyn ei hun, Piers
Cafodd ei eni ar 15 Mehefin 1984.
Mae’n dod o Marlow, Buckinghamshire.
Mae’n byw yn Ealing.
Mae’n gweithio fel Heliwr Pennau yn Bank.
Astudiodd fioleg ym Mhrifysgol Caeredin.
Mae ei deulu’n cynnwys tad, mam a brawd hŷn, Russell.
Mae’n dwlu ar hen gerddoriaeth roc – Guns n Roses ac ati.
Y 2 brif fand yr hoffai eu gweld yn fyw yw AC/DC a Metallica.
Mae’n DWLU ar gaws.
Mae’n well ganddo win coch na gwin gwyn.
Mae wedi bod i Gymru am gwpl o nosweithiau allan yng Nghaerdydd. Ond dyna fe.
Mae’n mynd ar wyliau diogi fel arfer – aeth e i Dwrci ar ei wyliau diwethaf lle’r oedd ei fwyd a’i ddiod wedi’i gynnwys yn y pris.
Amserlen Pers ar ddydd Sadwrn 6 Awst
8.15 am Y Côr yn dechrau canu y tu allan i dŷ Piers
8.20 Joanna Page (Stacey o Gavin and Stacey) yn cyflwyno’r gwahoddiad i Piers
8.30 Y sesiwn Luniau
9.00 Brecwast
1015 Teithio i Twickenham
1230 Kelly Jones yn cyrraedd am ginio yn Twickenham
1500 Lansio’r dudalen Facebook yn swyddogol