Mae un o raglenni materion cyfoes S4C wedi ei gwahardd rhag cyfweld aelodau o Lywodraeth Cymru.

Ni fydd Hacio yn cael holi Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion, yn sgil cyfweliad rhwng y cyflwynydd Owain Phillips a’r Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies.

Mae Golwg360 yn deall bod Llywodraeth Cymru yn anhapus gyda Hacio am holi’r Dirprwy Weinidog ar fater TB mewn gwartheg, yn ystod rhaglen arbennig o faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths sy’n gyfrifol am fater TB mewn gwartheg a’r mater cecrus o ladd moch daear.

Ond mae Golwg360 yn deall bod Hacio o’r farn ei bod yn gwbwl briodol i holi Alun Davies am y mater, gan ei fod yn aelod o Lywodraeth Cymru ac yn cael ei holi ar ganol sioe flynyddol fwya’r ffermwyr.

Doedd Tîm Hacio ddim am wneud unrhyw sylw, ac mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn bolisi ganddyn nhw i beidio trafod eu perthynas gyda’r wasg a’r cyfryngau yn gyhoeddus.

Mae Hacio, fel ei chwaer raglen Y Byd ar Bedwar,  yn cael ei chynhyrchu gan ITV yng Nghroes Cyrlwys yng Nghaerdydd ar gyfer S4C, ac fe fydd y cawr newyddiadurol Gwilym Owen yn cael ei holi gan Owain Phillips nos Lun nesaf ar S4C.