Nigel Owens
 Roedd yr haul yn gwenu ar gyfer urddo aelodau newydd yr Orsedd y bore ’ma, gyda 32 yn cael eu gwisgoedd gwyrdd, glas a gwyn am y tro cynta’ o gwmpas meini’r orsedd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

 Ymhlith y rhai i gael eu derbyn, roedd digon o enwau cyfarwydd – o selogion y ’Steddfod i rai o enwau amlycaf Cymru. Un o’r rheiny oedd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens, sy’n cael ei dderbyn i’r orsedd am ei genhadu dros y Gymraeg ar y cae rygbi a’i waith elusennol.

 Roedd Nigel Owens yn derbyn y wisg werdd y bore ’ma – i’r Urdd Ofydd er Anrhydedd. Wrth gael ei dderbyn, cyhoeddwyd mai enw y gŵr o Fynyddcerrig fydd ‘Dyfarnwr o’r Mynydd’.

 Canmolwyd y dyfarnwr rhyngwladol am ddefnyddio’r Gymraeg ar y cae rygbi “ar bob cyfle posib,” ac am fod yn “barod iawn i gymryd rhan mewn nosweithiau i godi arian at achosion da.”

 Hefyd ymhlith y rhai yn cael eu derbyn i’r wisg werdd heddiw roedd Non Evans, sydd wedi cystadlu yn rhyngwladol ar gampau Rygbi, Jiwdo, Wreslo a Chodi Pwysau. Roedd Margret Daniel, o Aberporth, sy’n chwaer i’r diweddar Archdderwydd Dic Jones, yn cael ei derbyn i’r wisg wen heddiw, ynghŷd â’r awdur a’r cyflwynydd o Bontrhydfendigaid, Lyn Ebenezer, a’r cyfreithiwr a’r cyflwynydd Nic Parry.

 Newid yn y drefn

 Ond efallai mai hon fydd yr Eisteddfod olaf i sêr o fyd chwaraeon dderbyn y wisg werdd, wedi i aelodau’r orsedd gytuno ar newidiadau yn nhrefn lliwiau’r orsedd mewn cyfarfod ar y maes ddoe.

 Mae’r orsedd wedi cytuno y bydd pwyslais ar ddosbarthu’r y gwisgoedd yn ôl meysydd o hyn allan, yn hytrach nag o ran graddau.

 Yn y cyfarfod, derbyniwyd y cynnig “y dylai pawb sy’n derbyn Urdd er Anrhydedd yn y dyfodol ddod yn aelodau o’r Orsedd ar yr un gwastad.”

 Bydd hyn yn golygu newid y drefn bresennol lle mae’r wisg werdd yn gydnabyddiaeth am lwyddiant neu gyfraniad lleol, tra bod y wisg wen yn cydnabod llwyddiant neu gyfraniad ar lefel genedlaethol.

O Eisteddfod Bro Morgannwg flwyddyn nesaf ymlaen, fe fydd y wisg wen yn cael ei chadw ar gyfer enillwyr prif seremonïau’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd. Bydd y wisg las a’r werdd yn cael eu rhoi yn ôl eu meysydd o arbenigedd neu gyfraniad.

Mae Bwrdd yr Orsedd wedi penderfynu trafod ymhellach ynglŷn â pha feysydd fydd yn cael eu cynrychioli gan y lliwiau gwahanol – ond mae sôn y gallai’r trafodaethau hynny gynnwys cyflwyno lliw newydd i’r orsedd.