Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn dan y lach am ddefnyddio arian trethdalwyr i dalu am addysg breifat i 52 o blant teuluoedd RAF y Fali ar Ynys Môn.
Yn ôl Llŷr Huws Gruffydd o Blaid Cymru mae’n “drewi” fod y plant yn cael eu hanfon i ysgolion preifat ar y tir mawr ym Mangor, er mwyn osgoi addysg cyfrwng Cymraeg ar yr ynys.
Mae gweithwyr RAF y Fali yn cael cynnig lwfans – Day School Allowance (DSA) – gwerth £4,500 y flwyddyn i addysgu eu plant ‘a fyddai fel arall dan anfantais, yn academaidd ac yn gymdeithasol, oherwydd y polisi addysgu dwyieithog sy’n bodoli o fewn Awdurdodau Addysg Leol Gwynedd a Môn’, yn ôl gwefan RAF y Fali ei hun.
Yn y flwyddyn ysgol ddiwetha’ mi wariodd y Weinyddiaeth Amddiffyn £225,160 ar yr addysg breifat i’r 52 disgybl yn ysgolion preifat St Gerard’s a Hillgrove ym Mangor.
Ar ben hyn mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd yn talu am gostau teithio i’r ysgolion ym Mangor.
Mae’r Fali ym Môn tua 20 milltir o Fangor yng Ngwynedd.
Ar adeg pan mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn dan bwysau i arbed arian, mae un o Aelodau Cynulliad y Gogledd yn gandryll gyda’r lwfans i dalu am ysgolion preifat.
“Ers pryd mae cael addysg Gymraeg yng Nghymru yn ‘anfantais addysgol neu chymdeithasol’? Mae’r fath agwedd nawddoglyd yn drewi o’r ganrif ddiwethaf,” meddai Llŷr Huws Gruffydd.
“Ar adeg o docio cyllidebau a chwyno cyson am ddiffyg adnoddau ar gyfer milwyr sy’n ymladd yn Affganistan, does dim cyfiawnhad dros y fath beth.”
Yr wythnos ddiwetha’ cafodd undebau gweithwyr sifil eu cythruddo gan gyhoeddiad y Gweinidog Amddiffyn Liam Fox bod 22,000 o swyddi sifil y Weinyddiaeth Amddiffyn i fynd erbyn 2015.
Ond mae llefarydd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi amddiffyn lwfans addysg breifat RAF y Fali.
“Mae’r arian ar gael i unrhyw riant o’r lluoedd sy’n cael eu gyrru i weithio yng ngogledd Cymru ac sydd ddim eisiau i’w plant ddysgu iaith newydd yn ystod eu haddysg,” meddai’r llefarydd.
Mwy am hyn yn y rhifyn cyfredol eisteddfodol estynedig o gylchgrawn Golwg.