Mae pencadlys y Sianel Gymraeg yng Nghaerdydd

Mi ddylai S4C gael gwared ar 40% o’i staff, sef 60 o weithwyr.

Ac mi ddylai anelu at gwtogi’n arw ar yr 15 o benaethiaid sy’ ar fwrdd y llong hefyd.

Dyna ddau gasgliad yn adroddiad Richie Turner, yr Academydd o Breifysgol Cymru gafodd ei gomisiynu gan Awdurdod S4C i edrych ar sut mae’r Sianel yn gweithio.

Daeth cynnwys yr adroddiad at sylw cylchgrawn Golwg yn ddiweddar, ac ynddo mae Richie Turner yn dweud bod angen ‘ystyried lleihau’n sylweddol y nifer o swyddi Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid a chreu swydd Prif Swyddog Gweithredu i oruchwylio’r holl weithgareddau’.

Hefyd mae’n dweud bod angen ‘anelu at leihau swyddi eraill gan 40% ar lefelau presennol, trwy wella perfformiad o ganlyniad i well cynllunio, cyfathrebu, rhannu sgiliau a chyd-weithio’.

Doedd llefarydd y Sianel ddim am drafod yr adroddiad, ond roedd yn pwysleisio bod S4C eisoes wedi cychwyn tocio ar staff.

 “Mi fyddwn ni wedi colli 30 o swyddi, ond mi fydd mwy o ailstrwythuro pellach maes o law,” meddai’r llefarydd, oedd yn pwysleisio bod “adroddiad Richie Turner ond yn un rhan o’r adolygiad cynhwysfawr i weithgareddau S4C”.

Argymhellion eraill

Yn ogystal â chwtogi’n sylweddol ar staff, mae Richie Turner yn awgrymu ffyrdd eraill o arbed arian:

  • rhoi’r gorau i gynhyrchu’r cylchgrawn Sgrin – ‘ni ellir ei gyfiawnhau…ni fedraf gredu y bydd gwylwyr craidd S4C yn rhoi’r gorau i’w wylio am nad ydyn nhw’n derbyn Sgrin trwy eu blychau post’;
  • rhoi’r gorau i noddi tudalennau teledu yn The Daily Post ar ddydd Sadwrn;
  • symud at fedru trosglwyddo rhaglenni ar-lein yn hytrach na thalu i raglenni ar dâp gael eu gyrru mewn ceir i Gaerdydd;
  • atal yr yswiriant iechyd preifat ar gyfer staff, cael gwared ar geir cwmni cyn gynted ag y bo modd, rhoi’r gorau i dalu am fws i weithwyr fynd i ganol Caerdydd amser cinio ac adolygu’r sybsidi ar gyfer y clwb cymdeithasol a’r cantîn.

 

Mwy am yr adroddiad S4C: Adolygiad Effeithlonrwydd ac Arloesedd, yn y rhifyn cyfredol eisteddfodol estynedig o gylchgrawn Golwg.