Rhian Staples o Abertawe yw enillydd y Fedal Ddrama eleni.

Cyflwynir y Fedal Ddrama am y cyfansoddiad gorau yng nghystadlaethau cyfansoddi y ddrama hir a’r ddrama fer, ac ym marn y beirniaid Arwel Gruffydd a Sharon Morgan, enillydd cystadleuaeth y ddrama fer, Begw, ddaeth i’r brig. 

Ganed Rhian o fewn tafliad carreg i faes yr Eisteddfod yn Ysbyty Maelor, Wrecsam ac fe’i magwyd yn y Bala, lle’r oedd ei rhieni, Gwyneth a Hefin Thomas, yn aelodau brwd o fwrlwm y ddrama amaturaidd yng Nghapel Tegid.

Graddiodd mewn Drama yn Aberystwyth yn 1991, a bu’n gweithio ym myd y theatr am y 10 mlynedd ar ôl gadael coleg.

Yn ddiweddarach, trodd at fyd addysg, a hi bellach yw Pennaeth yr Adran Ddrama yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ac mae ei diolch yn fawr i ddisgyblion yr ysgol honno am ei symbylu.

Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn fawr i Rhian. Yn ogystal ag ennill y Fedal Ddrama, cyhoeddodd ei drama gyntaf gyda’r Lolfa: Hap a … ar gyfer disgyblion TGAU a chyfarwyddodd gynhyrchiad llwyddiannus o Les Miserables gyda’r ysgol.