Dynes a ddechreuodd ddysgu Cymraeg am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd dair blynedd yn ôl yw enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Cyflwynwyd y wobr i Kay Holder o Ddinas Powys mewn seremoni arbennig yn neuadd goffa Wrecsam neithiwr.

 Roedd tri arall ar y rhestr fer eleni, Cat Dafydd, Neil Wyn Jones a Sarah Roberts, ond penderfynodd y beirniaid, Dafydd Griffiths, Helen Prosser a Dyfed Thomas mai Kay Holder ddaeth i’r brig.

Roedd 21 o bobl wedi cystadlu, gyda cheisiadau o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

‘Safon uchel iawn’

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wedi’r seremoni yn Neuadd Goffa Wrecsam: “Roedd safon y cystadlu eleni’n uchel iawn, ac mae’n amlwg bod Kay wedi gwneud argraff arbennig ar y beirniaid i ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni. “

Yn wreiddiol o Benarth, mae Kay bellach yn ôl ym Mro Morgannwg yn byw yn Ninas Powys gerllaw, ac yn gweithio fel tiwtor preifat Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg.

 Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008, ac mae’n rhan o’r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg y flwyddyn nesaf.

Dywed Kay: “Fe es i ddarganfod iaith, byd a diwylliant newydd. Dechreuais i ddysgu’r delyn ar Faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd hefyd, ac erbyn hyn rydw i wedi sefyll arholiad Gradd 3. Felly, newidiodd yr Eisteddfod a’r iaith fy mywyd!”

Dechreuodd Kay ddysgu Cymraeg drwy lyfrau pan oedd yn byw yn Lloegr, ac yna symudodd yn ôl i Gymru ac mae’n mynychu dosbarthiadau Gloywi a Siawns am Sgwrs 4 gyda Canolfan Cymraeg Caerdydd a Bro Morgannwg ers mis Hydref.