Y pedwar ymgyrchydd ifanc - Hywel Jones, Garmon ab Ion, Osian Eryl a Llyr Jones
Mae poster dwyieithog gan S4C wedi cythruddo pedwar o fechgyn ifanc i lansio ymgyrch ar faes yr Eisteddfod dros bosteri uniaith Cymraeg neu rai â’r Saesneg yn llai amlwg arnyn nhw.

Fe ddaeth Hywel Jones, 14 o Gaeathro,  Garmon ab Ion, 12 o Gaerdydd,  Osian Eryl, 13 o Gaeathro  a Llyr Jones, 14 o Gaeathro at ei gilydd ddoe ar ôl sylwi ar boster o S4C Rapsgaliwn ble mae’r Gymraeg a’r Saesneg tua’r un maint.

 “Gan fod pobl wedi brwydro’n galed iawn dros S4C – gan fynd i’r carchar i gael sianel Gymraeg – fi’n credu fod S4C  a Cyw yn taflu hyn yn ôl yn ein hwynebau ni wrth wneud posteri dwyieithog gyda’r Saesneg yn fawr arno,” meddai Garmon ab Ion wrth Golwg360.

“Rydan ni eisiau’r Gymraeg yn fwy a pheidio cael y Saesneg arno neu gael rhai geiriau Saesneg yn unig ar waelod y poster,” meddai.

Mae’r bechgyn wedi llwyddo cael tua 45 o enwau ar y ddeiseb brynhawn heddiw gan gynnwys Nic Parry, Bethan Gwanas  a Ffion Dafis.

Gobaith y pedwar yw cael rhagor o enwau ar y ddeiseb cyn ei gyflwyno i benaethiaid S4C heddiw.

“Rydan ni wedi cael llawer o gefnogaeth, dim ond cwpl o bobl sydd wedi anghytuno gyda ni.”