Eryl Vaughan, Ynni Gwynt Cymru
Fe fydd y cam cynta’n cael ei gymryd heno i sefydlu cymdeithas newydd genedlaethol i annog cefnogaeth i gynlluniau ynni gwyrdd.
Y nod fydd ymateb i’r math o brotestiadau sydd wedi bod yn erbyn peilonau a gorsaf ddosbarthu trydan yng nghanolbarth Cymru gan geisio argyhoeddi pobol o werth a phwysigrwydd y dechnoleg newydd.
Fe fydd seminar yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod heno, gyda’r bwriad o symud ymlaen i sefydlu’r gymdeithas yn yr hydref.
Yr enw tebygol yw Cymdeithas Dechnoleg Gynaliadwy Cymru ac mae’r trefnwyr yn dweud eu bod yn gobeithio denu cefnogaeth o bob plaid, gydag aelodaeth y gymdeithas yn cynnwys yr holl fusnesau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.
‘Heb wneud digon’
Yn ôl Eryl Vaughan o gwmni Ynni Gwynt Cymru, mae’r rheiny’n cynnwys cwmnïau sy’n rhedeg cynlluniau ynni gwyrdd ar dir a môr, cynhyrchwyr yr offer, adeiladwyr, ffermwyr a pherchnogion tir, asiantau tir, ymgynghorwyr, cynllunwyr a gwasanaethau cefnogi fel cyfreithwyr a chyfrifwyr.
“Yng ngoleuni’r protestiadau sydd wedi bod yng Nghanolbarth Cymru, ryden ni wedi sylweddoli nad yden ni ddim wedi gwneud digon,” meddai wrth Golwg360. “Dyden ni ddim wedi gadael i bobol wybod pam ein bod ni’n gwneud yr hyn yden ni a be ydi’r buddiannau.
“Tydi malu awyr am ynni glân ddim yn ddigon; mae’n rhaid i ni ddangos pa fudd sydd yna iddyn nhw. Pan mae pobol yn deall y buddiannau, maen nhw’n cefnogi.”
Adroddiad ar werth economaidd
Un o gamau tebygol cynta’r gymdeithas newydd yw comisiynu adroddiad ar werth economaidd cynlluniau ynni gwyrdd i Gymru – mae’r economegydd, yr Athro Brian Morgan, Cadeirydd Ynni Gwynt Cymru, eisoes yn crynhoi tîm o ymchwilwyr i wneud hynny.
“Mi fydd yn astudiaeth academaidd yn edrych i mewn i’r impact y gall y technolegau newydd eu cael ar ein heconomi ni a’r effaith ar Gymru,” meddai Eryl Vaughan.
Yn achos datblygiadau’r canolbarth, mae’n dadlau mai’r bwriad i godi peilonau ar draws rhan o Sir Drefaldwyn yw’r broblem fawr ond nad oes eu hangen mewn gwirionedd.
O feddwl am y targedau sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru, fe fyddai ceblau ar bolion pren dwbl yn ddigon i gario’r trydan, meddai.
‘Cyfle mawr’
Y prif siaradwr yn y seminar fydd y cyn AS ac AC, Cynog Dafis. Fe fydd yn dadlau bod yna gyfle economaidd mawr i Gymru trwy arwain gyda thechnoleg ynni glân a bod angen gwarchod rhag ffordd o feddwl sy’n cadw cefn gwlad Cymru’n brydferth ond yn farw.
Mae’r trefnwyr yn disgwyl cynrychiolwyr o rai o’r cwmnïau mawr rhyngwladol sy’n datblygu ffermydd gwynt a chynlluniau ynni môr yng Nghymru.