Mae gyrrwr wedi marw ar ôl i’w gar fynd ar dân wrth syrthio oddi ar y ffordd ar yr A470 y bore ma.

Roedd y gyrrwr, sydd heb ei adnabod, yn teithio i gyfeiriad Caerdydd pa darodd ei gerbyd y rhwystrau ar ymyl y ffordd tua 6.19am.

Caeodd yr heddlu’r ffordd rhwng cylchfan Abercynon a Glan-bad ar gyrion Pontypridd wrth i ddiffoddwyr tân frwydro’r fflamau.

Cafodd pedwar criw tân eu galw, o Gaerffili, Pontypridd a Threlái. Roedd pymtheg car heddlu hefyd yno.

Cafodd y ffordd ei chau am ddwy awr ac fe fu’r heddlu yn dargyfeirio ceir ar hyd yr A472 drwy Ystrad Mynach ac yna’r A469 drwy Gaerffili.