Mae’r A470 ar gau i gyfeiriad y de ger Abercynon wedi i gerbyd fynd ar dân yno.

Dywedodd y gwasanaethau brys fod car wedi gadael y ffordd a mynd i ganol coed ben bore ma.

Mae disgwyl y bydd oedi mawr ac mae’r heddlu yn dargyfeirio ceir ar hyd yr A472 drwy Ystrad Mynach ac yna’r A469 drwy Gaerffili.