Bu farw bachgen o Gaersws tra’n chwarae pêl-droed gyda ffrindiau.

Fe gafodd Casey Breese, 12 oed, ei daro gan ddau bostyn gôl ddydd Gwener. Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod nhw’n dal i ymchwilio i’r digwyddiad. Dydyn nhw ddim yn credu bod yna amgylchiadau amheus.

Wedi’r digwyddiad ar gae chwarae Caersws ddydd Gwener, fe gludwyd Casey Breese mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Brenhinol Amwythig, ac yno y bu farw o’i anafiadau.