Eglwys yr Holl Saint ym Maerdy
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cynnig gwerthu Eglwys Yr Holl Saint yn y Rhondda i ymgyrchwyr am £1,000.
Fe ddywedodd Archesgob Cymru eu bod yn gallu gwerthu’r Eglwys am y pris hwn ar yr amod ei bod yn cael ei chadw “fel man addoli”.
“Rwy’n rhoi yn union beth mae protestwyr Maerdy wedi gofyn amdano iddyn nhw – cyfle i achub Eglwys yr Holl Saint rhag cau,” meddai Dr. Barry Morgan.
“Maen nhw’n hyderus y gallan nhw godi digon o arian i adfer a chynnal yr Eglwys a nawr dim ond £1,000 o bunnau’n ychwanegol fydd rhaid iddyn nhw’i ddod o hyd i’w brynu.
“Mae’n gyfle gwych iddyn nhw. Y gymuned fyddai’n berchen ar yr adeilad a’r tir a byddai’r dyfodol yn eu dwylo nhw “.
Byddai’r £1,000 o bunnoedd yn mynd i dalu costau gweinyddol.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth aelodau o Gyngor Plwyf Eglwysig y Rhondda Fach Uchaf (Maerdy, Glynrhedynog a Tylorstown) wrthod gwyrdroi eu penderfyniad i gau Eglwys yr Holl Saint gan eu bod yn credu y byddai’n ormod o faich ariannol ar y plwyf cyfan.
Mae’r Archesgob yn credu fod y cynnig hwn yn gyfaddawd teg rhwng dymuniadau’r Cyngor Plwyf Eglwysig a rhai o’r protestwyr.
Cynnig ‘deniadol iawn’
Fe ddywedodd Barbara Daniels, warden Eglwysi’r ardal, fod y cynnig yn un “deniadol iawn”.
“Mae’n sefyllfa anodd iawn. Mae’n gynnig deniadol ond mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o’r cymalau. Bydd rhaid i’r adeilad aros yn Eglwys ac mae’n rhaid i’r Holl Saint chwarae rhan allweddol ym mywyd yr Eglwys. Yr Eglwys fydd y flaenoriaeth,” meddai.
“Rydan ni angen cyfreithiwr a rhywun gyda gwybodaeth am gyfraith Eglwysi. Rydan ni angen rhywun proffesiynol yma i wneud yn siŵr ein bod ni’n deall yr holl amodau cyfreithiol.”
Dywedodd mai’r opsiwn arall fyddai prynu’r Eglwys am y pris ar y farchnad agored, sef £25,000. Byddai ei brynu am y swm hwn yn golygu na fyddai amodau ynghlwm a’r gwerthiant.
“Am £1,000 – mae’n rhaid iddo aros yn adeilad eglwysig,” meddai.
Mae ymgyrchwyr dal i eistedd yn yr Eglwys ers Gorffennaf 3.