Mae’r Heddlu ym Mro Morgannwg yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio gadael eu heiddo o’u golwg wrth ymweld ag Ynys y Barri, ar ôl nifer o ladradau.
Ddydd Mawrth diwetha’ roedd grŵp o bobl wedi casglu ar lan y môr pan ddaeth dyn atyn nhw a chipio eiddo personol. Yna fe adawodd y lleidr mewn cerbyd.
Cafodd bag llaw a dwy walet eu dwyn.
“Yn rhy aml, mae pobl yn gadael eiddo personol o’u golwg wrth nofio yn y môr,” meddai Chris Owen o’r heddlu.
“Peidiwch â gadael unrhyw beth o werth heb oruchwyliaeth. Os ydych chi gyda grŵp o ffrindiau, dylech bob amser wneud yn siŵr bod o leiaf un person yn aros gyda’r eiddo.”
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad neu am berson oedd yn actio’n amheus gysylltu gyda’r Heddlu ar 101 neu gyda Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.