Union 50 wythnos i heddiw bydd gig arbennig ym Mhontrydfendigaid yng Ngheredigion i ddathlu 50 mlynedd o ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn ôl hyrwyddwyr bydd y digwyddiad yn un o’r gigs mwya’ yn hanes y Sîn Roc Gymraeg ers blynyddoedd, gyda 50 o fandiau’n chwarae’n fyw.
Dros ddwy noson bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnig llwyfan i lu o artistiaid Cymraeg er mwyn nodi’r pen-blwydd arbennig a dathlu pum degawd o hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg.
“Yn 2012 bydd Cymdeithas yr Iaith yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant. I nodi’r achlysur hwn, ac i gydnabod pum degawd o ymgyrchu brwd dros y Gymraeg, mae’n fwriad i drefnu gig enfawr ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid,” meddai Huw Lewis, un o drefnwyr ’50’.
‘Artistiaid blaenllaw’
“Fodd bynnag, nid gig cyffredin fydd hwn,” ychwanegodd Huw Lewis, “rydym am fod yn uchelgeisiol! Gan fod y Gymdeithas wedi bod yn rhan ganolog o hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg dros y pum degawd diwethaf, mae’n fwriad gennym i gynnig llwyfan i bumdeg o artistiaid Cymraeg blaenllaw.
“Yn sgil hynny, does dim amheuaeth mai ’50’ fydd y digwyddiad mwyaf i’r Sîn Roc Gymraeg ei weld ers blynyddoedd.
“Rydan ni eisoes wedi bod yn hyrwyddo rhywfaint ar ‘50’ ar Twitter ac ati. Mae pumdeg o wythnosau rhwng heddiw a’r dyddiad mawr, felly’r teimlad oedd ei bod yn adeg priodol i lansio manylion ’50’.”
Eisoes, mae’r dirgelwch sy’n amgylchynnu @hannercant wedi ennyn peth sylw ar twitter.
Dywedodd y byddai rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Fe fydd y gig yn digwydd ar benwythnos 13-14 Gorffennaf 2012.