Bydd cyfle i gael MOT Iechyd am ddim –gyda chyngor ar bopeth o ddiogelwch yn yr haul i reoli camdreuliad – yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yr wythnos nesaf.
Fe gaiff eisteddfodwyr gyngor a gwybodaeth am faterion fel bwyta’n iach, ymarfer corff, alcohol a rhoi’r gorau i ysmygu ar stondin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gogledd Cymru.
Ymhlith y cynigion eraill fydd gwybodaeth am ofal iechyd sy’n amrywio o les meddyliol i sut mae mwynhau noson dda o gwsg.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn rhannu’r stondin gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Feddygol Cymru.