Elfed Roberts - rhybudd
All yr Eisteddfod Genedlaethol ddim diodde’ rhagor o doriadau ariannol, heb orfod torri swyddi neu faint yr ŵyl ei hun, yn ôl Cyfarwyddwr y Brifwyl.

Ar drothwy’r Eisteddfod eleni, fe ddywedodd Elfed Roberts wrth y BBC fod gwario’r ŵyl eisoes wedi ei dorri i’r bôn.

Mae yna bwysau ariannol eleni, gyda rhai noddwyr masnachol yn tynnu’n ôl oherwydd y dirwasgiad a’r pwyllgorau lleol yn Wrecsam heb allu cyrraedd eu targedau codi arian.

Mae cyfraniad cynghorau sir Cymru ychydig yn llai eleni hefyd tra bod cyfraniad y Llywodraeth yn aros yn ei unfan.

Pwysau

Ond, yn ôl Elfed Roberts, fe fydd y pwysau’n cynyddu y flwyddyn nesa’ ac yn 2013 ac fe allai tywydd gwael neu broblemau tebyg achosi trafferthion mawr.

Roedd yr Eisteddfod, meddai, wedi bod yn torri ar gostau ers blynyddoedd ond dim ond dau ddewis arall fyddai ar ôl bellach – cwtogi swyddi neu weithgareddau.

Mae gan yr Eisteddfod ddwsin o weithwyr llawn amser.