Jessica Adams (IBERS)
Fe allai gwymon môr fod yn ffynhonnell bwysig o ynni yn y dyfodol, meddai ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Mae’n cynnig mwy o botensial na chnydau ar y tir ac heb lawer o’r problemau, medden nhw ar ôl cynnal ymchwil i wymon môr-wiail, neu kelp, ar lannau Cymru.
Mae modd troi hwnnw’n danwydd ynni ac yn fath o olew trwy nifer o brosesau gwahanol ac, yn ôl y gwyddonwyr yng nghanolfan IBERS (y Sefydliad Gwyddorau Biolegol. Amgylcheddol a Gwledig), mae’n arwydd o botensial planhigion y môr.
Mae mwy na hanner holl fio-mas y byd yn y môr, medden nhw, ac mae gwymon yn gallu cynhyrchu mwy o fio-mas fesul metr sgwâr na phlanhigion ynni sy’n tyfu ar y tir.
Manteision gwymon
At hynny, meddai Dr Jessica Adams o IBERS, dyw defnyddio gwymon i greu ynni ddim yn mynd â thir amaethyddol ac, yn wahanol i ynni gwynt, mae’n bosib storio’r ynni a’i ddefnyddio fel bo’r angen.
Roedd ymchwil IBERS wrth gasglu gwymon môr-wiail yng Nghymru bob mis wedi dangos mai Gorffennaf yw’r amser gorau i gynaeafu’r planhigion.
Fe fydd yr ymchwil yn parhau i ffeindio ffyrdd o dynnu defnyddiau gwerthfawr eraill o’r gwymon cyn ei droi’n ynni.