James Smart (Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau mai dyn o Benarlâg a gafodd ei ladd mewn damwain yn ne’r Eidal.

Roedd James Smart, 22 oed, yn gyrru lorri ar ran yr Awyrlu gan gario offer a nwyddau ar gyfer yr ymosodiadau ar Libya.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ynghynt yr wythnos hon gerllaw tref o’r enw Vasto yn ne’r wlad.

Roedd yr Uwch Awyrluyddwr – Senior Aircraftman – yn rhan o gonfoi o ddeg o gerbydau ar eu ffordd i borthladd yn y de.