Dyw’r BBC ddim yn rhoi digon o sylw i wyddonwyr o Gymru a’r gwledydd datganoledig eraill.
Yn ôl adroddiad gan Ymddiriedolaeth y BBC mae gwyddonwyr o’r tu allan i dde ddwyrain Lloegr yn teimlo fod y gorfforaeth yn eu hanwybyddu.
Mae’r BBC yn dibynnu yn ormodol ar arbenigwyr o Rydychen, Caergrawnt, a Llundain, yn ôl yr adroddiad.
Awdur yr adroddiad yw’r Athro Steve Jones o University College Llundain.
Mae’n dweud mai “straeon gwyddonol o dde-ddwyrain Lloegr yw’r rhan fwyaf sy’n cael sylw gan y darlledwr”.
“Roedd cynrychiolwyr o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn teimlo nad oedden nhw’n gallu cael eu pig i mewn.”
Dim byd o Gymru
Yn ôl yr arolwg roedd 22 prifysgol o Loegr wedi eu crybwyll yn ystod cyfnod yr arolwg, un o’r Alban ond ddim un o Gymru na chwaith Gogledd Iwerddon.
Serch hynny cafodd pum prifysgol o’r Unol Daleithiau eu crybwyll yn ystod yr un cyfnod.
“Roedd gwyddonwyr o’r gwledydd datganoledig yn teimlo fod gormod o sylw i wyddonwyr o’r ‘Triongl Aur’ – sef Rhydychen, Caergrawnt, a Llundain,” meddai’r adroddiad.
Roedd Prifysgol Caerdydd yn teimlo “nad oedd BBC Cymru yn gwneud digon er mwyn chwilio am straeon gwyddonol yng Nghymru, hyd yn oed rhai oedd o ddiddordeb yn genedlaethol”.