Mae heddluoedd Cymru yn bwriadu torri 1,304 o heddweision a staff erbyn 2015, yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.

Yn ôl yr adroddiad fe fydd yna 764 yn llai o heddweision yng Nghymru erbyn mis Mawrth 2015 – 10.4% yn llai na’r cyfanswm yn 2010.

Fe fydd yna 540 yn llai o staff a phedwar yn llai o swyddogion cefnogaeth gymunedol.

Mae’r adroddiad yn awgrymu y bydd cwymp o 10% yn nifer y swyddogion yn arwain at gynnydd 3% mewn troseddau.

“Mae yna dystiolaeth weddol gryf ynglŷn ag effaith niferoedd yr heddlu ar droseddau,” meddai’r adroddiad.

Bydd Heddlu Gwent yn colli 167 o heddweision, Heddlu Gogledd Cymru yn colli 207, a Heddlu De Cymru yn colli 395. Ond bydd Heddlu Dyfed Powys yn gweld cynnydd o bum heddwas.

Bydd Dyfed Powys yn colli 165 o’u staff, Heddlu Gwent yn colli 136, Heddlu Gogledd Cymru yn colli 19, a Heddlu De Cymru yn colli 2020.

Heddlu Nifer y Heddweision yn 2010 Nifer y Heddweision yn 2015 Nifer y Staff yn 2010 Nifer y Staff yn 2015
Gogledd Cymru 1,590 1,383 921 902
Dyfed-Powys 1,195 1,200 720 555
De Cymru 3,148 2,753 1,810 1,590
Gwent 1,437 1,270 810 674