Siambr y Senedd
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyhoeddi rhywfaint o’r manylion am Gomisiwn annibynnol i ystyried y drefn ariannol a threthi yng Nghymru.

Yn ôl Cheryl Gillan, fe fydd y Comisiwn yn dechrau ar ei waith yn yr hydref ac yn disgwyl cyflwyno adroddiad ymhen blwyddyn wedi hynny.

Y disgwyl yw y bydd yn gwneud gwaith tebyg i Gomisiwn Calman yn yr Alban – roedd hwnnw wedi argymell bod y Llywodraeth yno’n dod yn gyfrifol am godi rhywfaint o drethi.

Fe bwysleisiodd yr Ysgrifennydd ei bod hi wedi trafod gydag arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad ac y byddai’r Comisiwn hefyd yn ystyried adroddiadau Holtham sydd wedi argymell diwygio’r drefn o gyllido Cymru.

Croeso petrus

Roedd yna groeso petrus i’r cyhoeddiad gan arweinydd Plaid Cymru ond roedd Ieuan Wyn Jones hefyd yn siomedig am y diffyg manylion.

Fe bwysleisiodd y dylai ‘Calman Cymru’ ystyried y ffyrdd o gyllido llywodraeth yng Nghymru a hefyd pa bwerau pellach ddylai gael eu datganoli.

Mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi gwneud yn glir eu bod eisiau i Gymru gymryd peth cyfrifoldeb am godi cyllid, ond mae’r blaid Lafur, hyd yma, wedi bod yn amheus.