Cerhyntau oddi ar Sir Benfro
Bydd y Prif Weinidog yn ymweld â Sir Benfro heddiw er mwyn cyhoeddi y bydd generadur llanw newydd yn cael ei osod o’r arfordir yno.
Bydd £6.4m o arian gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio er mwyn adeiladu a gosod y ddyfais, sy’n costio £11m, erbyn 2012.
Fe fydd y ddyfais yn cael ei gosod ar wely’r môr oddi ar arfordir Ynys Dewi erbyn 2012, ac yn cynnwys tri thyrbin fydd yn cynhyrchu trydan o’r cerhyntau yno.
“Mae egni adnewyddadwy yn hanfodol er mwyn creu economi carbon isel fydd yn gwneud Cymru yn wlad fwy cynaliadwy,” ebe Carwyn Jones.
“Rydyn ni’n ymroddedig i hybu trydan glan wrth warchod ein hamgylchedd naturiol.”
Ychwanegodd cyfarwyddwr Tidal Energy, sydd wedi creu’r ddyfais, y bydd y prosiect yn creu swyddi newydd yn yr ardal.