Teledu plasma gyda gwasanaethau'r We (Rahlgd CCA 3.0)
Mae rhieni yng Nghymru’n poeni mwy am gynnwys teledu, ffonau symudol a gêmau cyfrifiadurol na rhieni yng ngweddill gwledydd Prydain.
Yn ôl ymchwil y corff rheoleiddio, Ofcom, mae 45% o rieni yng Nghymru yn pryderu am gynnwys teledu o’i gymharu â 30% o rieni ar draws Prydain.
Mae 36% yn pryderu am gynnwys gemau o’i gymharu â chyfartaledd o 23% ym Mhrydain.
Er hynny, dim ond tua chwarter rhieni yng Nghymru sydd â chyfrinair neu rif PIN wedi’i osod ar eu setiau teledu o’i gymharu â 36% ym Mhrydain.
Defnydd yn debyg
Yn gyffredinol, mae plant a phobol ifanc yng Nghymru’n defnyddio’r cyfryngau mewn ffordd debyg iawn i’w cyfoedion yn y gwledydd eraill.
Mae’r ymchwil blynyddol gan Ofcom yn archwilio defnydd y cyfryngau ac agweddau ymhlith plant 5-15, eu rhieni/gofalwyr ac oedolion 16+ ar draws Brydain.
Roedd bron i naw ym mhob 10 o rieni yng Nghymru yn dweud bod eu plant wedi dysgu sut i ddefnyddio’r we yn ddiogel yn yr ysgol – hynny’n uwch na’r cyfartaledd.
Hoff o deledu
Mae plant a phobol ifanc yng Nghymru’n fwy hoff o’r teledu na phobol gweddill gwledydd Prydain – roedd bron ddau o bob tri o oedolion yn dweud y bydden nhw’n colli teledu’n fwy nag un cyfrwng arall.
Hefyd, roedd yr ymchwil yn dangos fod gan fwy na hanner yr oedolion sy’n defnyddio’r We yng Nghymru broffil ar wefan ryngweithio cymdeithasol – ar gyfartaledd, mae oedolion Cymru’n treulio mwy na 12 awr ar y We mewn wythnos.