Bocsys o'r creision newydd (o wefan y cwmni pecynnu)
Mae creision newydd sy’n defnyddio cynnyrch o Gymru wedi’u lansio yn y Sioe Frenhinol heddiw.
Mae crisps Jones o Gymru’n fenter sydd wedi bod ar y gweill ers tua dwy flynedd rhwng Menter Môn, ffermwyr ac arbenigwyr tatws o Brifysgol Bangor.
Mae’r creision yn costio 75c y bag ac yn defnyddio tatws o Gymru ynghyd â Halen Môn o afon Menai.
Gobeithio agor ffatri
“Mewn tua blwyddyn, rydan ni eisiau trio sefydlu Jones fel cwmni ac efallai agor ffatri. Mae bwlch yn y farchnad,” meddai Dafydd Gruffydd o Menter Mon wrth Golwg360.
“Rydan ni’n honni mai Cymru yw’r wlad orau yn y byd i dyfu tatws oherwydd y pridd, y glaw ac mae’n lan. Mae Jones yn enw Cymreig a hawdd i’w ddweud ym mhob iaith.”
Mae tri blas ar gael ar hyn o bryd, Halen Môn, Halen Môn a finag a Chaws Aeddfed Cymreig a nionyn.
“Mae’r creision yn mynd lawr yn dda yma yn y sioe,” meddai Dafydd Gruffydd.