Andrew R T Davies
Mae arweinydd newydd y Torïaid yng Nghymru wedi dangos y byddan nhw’n parhau i ymosod ar y Llywodraeth tros iechyd.

Ar ei ddiwrnod llawn cynta’ yn y swydd, fe ddywedodd Andrew R T Davies bod y Gweinidog Iechyd yn anghywir wrth ddweud bod rhestrau aros am driniaeth yn iawn.

“Dydyn nhw ddim. Mae’n nhw’n gwaethygu ac maen nhw wedi codi eto yr wythnos hon,” meddai wrth ymweld ag Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Fe roddodd gefnogaeth benodol i alwad Coleg brenhinol y Bydwragedd am ragor o staff, gan ddweud bod nifer bydwragedd yn gostwng er bod rhagor o blant yn cael eu geni.

Mae wedi ailadrodd honiad y Blaid Geidwadol y bydden nhw’n cynnal lefel gwario ar iechyd yng Nghymru yn unol â chwyddiant – maen nhw’n cyhuddo Llafur o dorri £1 biliwn ar y gyllideb.