Mi fydd Ysgol Llanfachreth yn cau
 Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu ymgynghori ar y bwriad i sefydlu ‘Cymuned Ddysgu Gydol Oes’ i blant tair i 16 oed yn Nolgellau.

Byddai’r adnodd aml-safle newydd ar safleoedd presennol Ysgol Gynradd Dolgellau ac Ysgol Uwchradd Y Gader, a’r cyngor ei hun fyddai’n talu am y gwaith uwchraddio.

O’u cyfuno, a hynny erbyn mis Medi 2013, mi fyddai cyfle i wella’r adnoddau addysgol yn ôl y Cyngor.

Hefyd fel rhan o’r cynllun bydd Ysgol Llanfachreth yn cau, yn ogystal ag un ai Ysgol Brithdir neu Ysgol Ieuan Gwynedd yn Rhydymain.

Bwriad Cyngor Gwynedd yw cryfhau addysg yn y trefi gwledig a cheisio sicrhau rhwydwaith o ysgolion cynradd gwledig cryf.

 “Rwyf yn hynod falch bod yr holl drafodaethau lleol wedi dwyn ffrwyth, a bod Cyngor Gwynedd yn symud ymlaen gyda chonsensws cyffredinol ar yr angen i ad-drefnu ysgolion cynradd ac uwchradd yn Nolgellau a’r cymunedau o amgylch y dref,” meddai’r Cynghorydd Liz Saville Roberts, Arweinydd Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd.

 “Yn dilyn y penderfyniad hwn, byddwm rwan yn symud ymlaen i wneud gwaith pellach ar leoliad yr ysgol ardal fydd yn cael ei lleoli yn unai Brithdir neu Rhydymain mewn cydweithrediad gyda’r cynghorwyr lleol.”