Meri Huws fydd Cadeirydd ola' Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Mae pob un o weithwyr Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cael cynnig rhoi’r gorau i’w swyddi, a chael iawndal am wneud hynny.

Daw’r cynnig diswyddo wrth i’r staff wynebu cael eu rhannu rhwng y Llywodraeth ym Mae Caerdydd a swyddfa’r Comisiynydd Iaith newydd.

Erbyn y 5ed o Fedi bydd y staff sydd ar ôl yn gwybod i bwy fyddan nhw’n mynd i weithio.

Bydd cyfran o thua 80 o’r gweithwyr presennol yn mynd at y Comisiynydd Iaith, fydd yn gyfrifol am reoleiddio a hyrwyddo ym maes y Gymraeg. Un o’I gyfrifoldebau fydd datblygu’r drefn o ‘safonau’ o wasanaeth Cymraeg sydd i ddisodli’r Cynlluniau Iaith presennol.

Bydd y gweddill yn mynd i swyddfeydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn gyfrifol am y Mentrau Iaith, y cynllun Twf a’r Gymraeg mewn addysg.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd wedi sefydlu Bwrdd Prosiect i fynd i’r afael â’r ailstrwythuro, ac mae’r Bwrdd yn awyddus i gadw’r un lefel o weithwyr a llenwi unrhyw swyddi ddaw yn wag yn ystod y broses ddiswyddo gwirfoddol.

“Er tegwch i staff mae’r cynnig diswyddo wedi’i wneud er mwyn y rhai nad sy’ am fod yn rhan o’r drefn newydd,” meddai un o weithwyr y Bwrdd wrth Golwg360.

“Mae nhw’n trio cadw swyddi i bawb fedran nhw. Ti’n gorfod bod wedi gweithio yn y Bwrdd am ddwy flynedd i gymhwyso am dâl diswyddo.”