Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Fe fydd cynghorau’n cael eu gorfodi i weithio gyda’i gilydd o dan ddeddfwriaeth y bydd Llywodraeth Cymru’n ei chyflwyno dros y pum mlynedd nesaf.
Ac fe fydd deddfau eraill yn cyflwyno rhagdybiaeth o ganiatâd i roi organau, ynghyd â mesurau i fynd i’r afael ag ysgolion sy’n gwneud yn wael.
Fe gafodd hyn ei gadarnhau wrth i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones gyhoeddi blaenoriaethau deddfwriaethol ei lywodraeth yn y Senedd y prynhawn yma.
“Dyma’r rhaglen fwyaf manwl ar gyfer llywodraethu a gyflwynwyd erioed i Aelodau’r Cynulliad ers sefydlu’r Cynulliad,” meddai.
Yn sgil y bleidlais Ie yn y refferendwm ym mis Mawrth, fe all y Cynulliad basio’i ddeddfau ei hun ar faterion penodol heb orfod ymgynghori â San Steffan.
Ymhlith y meysydd a nododd fel rhai y bydd biliau ei lywodraeth yn ymwneud â nhw mae:
- Gorfodi awdurdodau lleol i gydweithio mwy wrth ddarparu gwasanaethau.
- Cynllun i wella diogelwch bwyd a rhoi gwybodaeth sy’n hawdd i’w deall i gwsmeriaid.
- Y Bil Rhoi Organau – a fydd yn creu system lle bydd yn ofynnol datgan dewis peidio â rhoi, yn lle datgan parodrwydd fel ar hyn o bryd
- Bill Addysg Ysgolion a Safonau er mwyn mynd i’r afael ag ysgolion gwael
- Diwygio gwasanaethau cymdeithasol fel eu bod yn addas ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio
- Camau i ddefnyddio tai gwag, â gwella safonau a hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
- Gosod dyletswydd ar gynghorau i ddarparu a chynnal llwybrau beicio
- Sicrhau bod y system gynllunio’n fwy tryloyw.
Wrth grynhoi, meddai Carwyn Jones:
“O greu system addysg sy’n caniatáu i’n plant gyflawni hyd eithaf eu gallu, a sicrhau’r gwerth gorau gan ein hawdurdodau lleol, rydym yn bwriadu defnyddio’r pwerau newydd sydd gennym i greu Cymru lle y mae gennym gyfiawnder cymdeithasol a lle y gallwn greu cyfleoedd i bawb.”