Disgynnodd deg adeiladwr 25 llawr i’w marwolaeth yn y Pilipinas heddiw, ar ôl i blatfform lifft ar safle adeiladu dorri.

Roedd y gweithwyr yn gosod ffenestri gwydr ar adeilad uchel pan dorrodd platfform y lifft, a’u gollwng nhw o’r 32ain llawr, i’r seithfed llawr, yn ôl y Maer Junjun Binay o ddinas Makati.

Cadarnhaodd heddlu a swyddogion achub fod deg gweithiwr wedi marw, a bod un mewn cyflwr difrifol. Ond dyw hi ddim yn amlwg eto sawl un oedd ar y platfform, meddai Junjun Binay.

Dywedodd perchnogion yr adeilad, Eton Properties Philippines, fod y dynion ar egwyl pan ddigwyddodd y ddamwain.

Penderfynodd y gweithwyr gymryd lifft i fyny i frig yr adeilad 39 llawr, “yn hytrach na defnyddio’r grisiau,” meddai’r datganiad.

“Gan mai dim ond ychydig ddynion y mae’r lifft yn gallu ei gario, fe dorrodd y cebl,” meddai’r cwmni.