Aled Roberts
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi ymddiheuro ar ôl i Aelod Cynulliad newydd gael ei wahardd ar ôl dilyn cyfarwyddiadau oedd heb eu diweddaru.

Roedd ymchwiliad annibynol wedi dangos fod y Democrat Rhyddfrydol, Aled Roberts, “wedi gwneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo yn rhesymol ei wneud”.

Cafodd ef a’i gyd AC John Dixon eu gwahardd o’u seddi am eu bod nhw wedi parhau’n aelodau o gyrff cyhoeddus ar ôl sefyll yn etholiadau’r Cynulliad.

Roedd Aled Roberts o restr Gogledd Cymru yn aelod o Gomisiwn Prisiau Cymru a John Dixon o ranbarth Canol De Cymru yn aelod o Gyngor Gofal Cymru.

Bydd pleidlais yn y Cynulliad yfory ar adfer yr ACau Aled Roberts a John Dixon i’w swyddi.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod nhw’n bwriadu cymryd camre cyfreithiol os nad ydi Aled Roberts a John Dixon yn cael eu hadfer.

Mewn datganiad dywedodd y Comisiwn Etholiadol eu bod nhw “wedi gwneud camgymeriad” wrth ddosbarthu canllawiau i ymgeiswyr.

“Rydyn ni’n difaru ac yn ymddiheuro am y camgymeriad prin iawn yma ac wedi adolygu ein prosesau mewnol er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd yn y dyfodol.”

Iaith

Heddiw cadarnhaodd adroddiad gan Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau y Cynulliad, fod  Aelod Cynulliad Aled Roberts wedi gwneud “wedi gwneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo yn rhesymol ei wneud”.

Doedd John Dixon ddim wedi gwneud digon er mwyn gwirio’r rheolau, ond yn ôl yr adroddiad roedd “wir yn credu” nad oedd wedi gwneud camgymeriad.

Ychwanegodd yr adroddiad annibynol fod cyngor y Comisiwn Etholiadol wedi cyfeirio Aled Roberts at reolau oedd yn hen.

Roedd y rheolau Seasneg yn gyfredol ond roedd Aled Roberts wedi darllen y rheolau Cymraeg oedd yn dyddio’n ôl i 2006.

Ymateb Kisrty

Galwodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, ar ACau i ddarllen yr adroddiad â “meddwl agored” a’i fod yn fater “llawer mwy difrifol na dau o ACau y Democratiaid Rhyddfrydol”.

“Mae enw da’r sefydliad yma yn y fantol a dyna ydyn ni’n mynd i fod yn canolbwyntio arno dros y 24 awr nesaf.

“Rydw i yn gobeithio y bydd ACau yn sylweddoli na fyddai yn gyfreithiol gywir i wneud penderfyniad yn seiliedig ar wleidyddiaeth plaid.”

“Wrth edrych yn ôl fe fyddwn i yn amlwg wedi gwneud rhai pethau yn wahanol ac rydw i’n siŵr y bydd pob plaid wleidyddol yn gwneud pethau’n wahanol yn etholiadau’r dyfodol,” meddai.

Ar fater yr iaith dywedodd ei fod yn credu bod cyfrifoldeb AC dros yr iaith Gymraeg “yn glir yn yr adroddiad a dydw i ddim am wneud sylw pellach am hynny”.

Ychwanegodd fod y cyfan wedi bod yn “ddrwg i’r unigolion, yn ddrwg i wleidyddiaeth Gymreig ac yn ddrwg i’r Cynulliad”.

Ymateb y Ceidwadwyr

Dywedodd arweinydd dros dro y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, ei fod yn “parhau i ystyried canlyniad adroddiad Mr Elias”.

“Ni fydd aelodau’r blaid yn pleidleisio â’i gilydd, ond yn unigol.”

Mae ffynhonellau o fewn y Ceidwadwyr a Plaid Cymru wedi agwrymu eu bod nhw’n bwriadu adfer Aled Roberts i’w sedd ond ddim John Dixon.

Ddoe galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am adfer Aled Roberts fel Aelod Cynulliad ac am ymddiheuriad ffurfiol gan y Llywydd a’r Comisiwn Etholiadol am y driniaeth a gafodd ac yr oedi rhag datrys y sefyllfa.

Roedd yr Aelod Cynulliad wedi dioddef o ganlyniad i “camwahaniaethu ieithyddol” yn ei erbyn, medden nhw.

Aled Roberts

Mae’r adroddiad yn cadarnhau fod Aled Roberts wedi edrych ar y rheolau cymhwysedd ond nad oedd y copi Cymraeg yn gywir.

“Defnyddiodd Aled Roberts y linc Gymraeg – sef yr un a ymddangosodd gyntaf o’r ddwy linc a anfonwyd yn yr e-bost – a dilyn trywydd y wybodaeth oni welodd fod sail yr anghymwyso yn parhau i fod o dan y linc at Orchymyn 2006,” meddai’r adroddiad.

“Cadarnhaodd Gareth Evans [Swyddog Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Ddinbych] iddo anfon y lincs gan roi’r linc Gymraeg yn gyntaf oherwydd, yn sgîl y sgwrs rhwng y ddau ohonynt, yr oedd o’r farn y byddai Aled Roberts yn defnyddio’r fersiwn Gymraeg.

“Mae’n glir y byddai’r fersiwn hon wedi bod yn arwain yn anghywir at Orchymyn 2006 bryd hynny o hyd. Nid yw’r Comisiwn Etholiadol yn gallu cadarnhau na gwadu bod rhywun wedi ymweld â thudalennau Cymraeg ei wefan y diwrnod hwnnw.

“Ym mhob cam o’r broses o’i ddethol a’i enwebu, dilynodd Aled Roberts y canllawiau a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol, canllawiau a adlewyrchwyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Yn syth cyn llofnodi ei ffurflen enwebu, bodlonodd ei hun, drwy gyfeirio at y canllawiau a ddarparwyd yn Gymraeg ac a oedd yn ei gyfeirio at y linc anghywir bryd hynny at Orchymyn 2006, nad oedd wedi’i anghymhwyso.

“Ni chafodd y canllawiau Cymraeg eu cywiro tan ar ôl yr etholiad.

“Er bod y canllawiau Saesneg wedi’u newid i gynnwys linc at Orchymyn 2010 ar 11 Mawrth 2011, yr wyf yn derbyn bod Aled Roberts wedi troi at y fersiwn Gymraeg.

“Yn ychwanegol at hynny, yr oedd hawl ganddo i dybio y byddai’r fersiwn Gymraeg yn adlewyrchu’r fersiwn Saesneg ar bob adeg ac ym mhob agwedd.

“Er bod Gorchymyn 2010 yn bodoli ac y gellid bod wedi dod o hyd iddo drwy chwilio drwy’r gwefannau cyfreithiol perthnasol, yr wyf yn ystyried y byddai wedi bod yn afresymol disgwyl i unrhyw ymgeisydd wneud hynny pan oedd canllawiau’r Comisiwn Etholiadol ar gael.

“Felly, yn yr amgylchiadau dan sylw, yr wyf o’r farn fod Aled Roberts wedi gwneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo yn rhesymol ei wneud wrth sicrhau nad oedd wedi’i anghymhwyso rhag cael ei enwebu neu ei ethol yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol.”

John Dixon

Mae’r casgliadau yn achos John Dixon yn awgrymu y dylai fod wedi genud rhagor o ymdrech er mwyn deall y rheolau.

“Adeg ei ddethol fel ymgeisydd ac yn union cyn iddo lofnodi ei ffurflen enwebu, darllenodd John Dixon ganllawiau’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer ymgeiswyr,” meddai’r adroddiad.

“Mae’n cytuno y byddai wedi darllen y cyfeiriad at Orchymyn 2006 ac at y rhybudd pellach.

“Mae’n cydnabod mai ei gyfrifoldeb ef oedd gwirio cynnwys Gorchymyn 2006.

“Mae hefyd yn cydnabod na fu iddo ar unrhyw adeg wirio cynnwys y Gorchymyn (yn fersiwn 2006 na fersiwn 2010).

“Efallai, oherwydd ei brofiadau blaenorol mewn etholiadau, ei fod yn dawel ei feddwl ynghylch ei gymhwyster i fod yn aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol.”