Aled Roberts
Mae digwyl y bydd pleidlais ar adfer dau Aelod Cynulliad gafodd eu gwahardd yn cael ei oedi am wythnos arall.

Roedd disgwyl y byddai ACau o bob plaid yn derbyn adroddiad y Cynulliad i wahardd Aled Roberts a John Dixon neithiwr, ond ni gyrhaeddodd.

Cafodd yr adroddiad gan Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau y Cynulliad, ei anfon at arweinwyr y pleidiau dros y penwythnos.

Roedd disgwyl i ACau gael gweld copi o’r adroddiad ddoe cyn cyfarfodydd i enderfynu ar y cam nesaf heddiw, a phleidlais yfory ar adfer y ddau AC.

Mae disgwyl y bydd y bleidlais yn cael ei ohirio hyd at yr wythnos nesaf, sef yr olaf cyn gwyliau’r haf.

Mae’n debyg fod Gerard Elias wedi galw am gyfarfod arall â’r Comisiwn Etholiadol yr wythnos yma, ar ôl iddyn nhw roi gwybodaeth anghywir i un o’r ymgeiswyr.

‘Camwahaniaethu ieithyddol’

Cafodd yr ACau Aled Roberts a John Dixon eu gwahardd o’u seddi am eu bod nhw wedi parhau’n aelodau o gyrff cyhoeddus ar ôl sefyll ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Roedd Aled Roberts o restr Gogledd Cymru yn aelod o Gomisiwn Prisiau Cymru a John Dixon o ranbarth Canol De Cymru yn aelod o Gyngor Gofal Cymru.

Ond daeth i’r amlwg fis diwethaf fod cyngor ysgrifenedig oedd wedi ei anfon at Aled Roberts ar y mater yn gywir yn y fersiwn Seasneg ond yn anghywir yn y fersiwn Cymraeg.

Ddoe galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am adfer Aled Roberts fel Aelod Cynulliad ac am ymddiheuriad ffurfiol gan y Llywydd a’r Comisiwn Etholiadol am y driniaeth a gafodd ac yr oedi rhag datrys y sefyllfa.

Roedd yr Aelod Cynulliad wedi dioddef o ganlyniad i “camwahaniaethu ieithyddol” yn ei erbyn, medden nhw.

“Unwaith oedd y Comisiwn Etholiadol a’r Llywydd yn ymwybodol o’r gam a dderbyniodd Aled Roberts, fe ddylai wedi cael ei adfer fel Aelod Cynulliad,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae’n warthus ei fod e wedi ei ddiarddel am wythnosau ac o dan ymchwiliad heddlu am ei fod wedi defnyddio’r Gymraeg.