Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyhuddo’r llywodraeth o fod yn anghyfrifol ar ôl iddi ddod yn amlwg nad oedd y corff sydd wedi gweithredu eu polisi ar ffioedd dysgu yn deall sut y byddai yn gweithio.
Mae e-byst gan brif weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn rhybuddio nad oes unrhyw un y tu allan i’r llywodraeth yn deall datganiadau’r gweinidog addysg.
Yn ôl yr e-bost anfonwyd gan yr Athro Philip Gummett ar 9 Chwefror roedd gan Leighton Andrews gwesitnau i’w hateb am y polisi.
“Mae’n rhaid i fi ddweud nad ydym ni o fewn y Cyngor Cyllido Addysg Uwch yn credu ein bod ni bellach yn deall y cynllun sydd y tu ôl i ddatganiad y gweinidog ar 30 Tachwedd,” meddai.
Daeth yr e-bost i’r amlwg ar ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Y polisi ar hyn o bryd yw y bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5625 arall.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gefnu ar eu cynlluniau i dalu ffioedd dysgu myfyrwyr Cymru.
‘Anfforddiadwy ac anghynaladwy’
“Does dim syndod fod dryswch yn y sector addysg uwch am sut y bydd y polisi yn gweithio, pan nad yw’r gweinidog yn gweithio’n agos â phrifysgolion,” meddai Angela Burns, llefarydd yr wrthblaid ar addysg.
“Roedd polisi’r Blaid Lafur ar ffioedd dysgu yn fodd o gael sylw cyn yr etholiad, ond cafodd ei gyhoeddi cyn iddyn nhw ei ddatblygu a’i brisio yn iawn.
“Fe fyddai’r polisi anghyfrifol yma yn tywallt miliynau o bunnoedd o arian Llywodraeth Cymru i mewn i brifysgolion yn Lloegr a hynny ar draul sefydliadau yng Nghymru.
“Mae angen i’r gweinidog gefnu ar yr ymrwymiad anfforddiadwy ac anghynaladwy yma er mwyn osgoi creu system addysg eilradd yng Nghymru.”
Ymateb y Dems Rhydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu nad oes yna unrhyw ddryswch rhyngddyn nhw a’r Cyngor Cyllido a bod trafodaethau yn mynd yn eu blaen drwy’r amser.
Ond honnodd Jenny Randerson, sy’n cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ’r Arglwyddi, fod yr e-byst yn dangos nad oedd y Cyngor Cyllido wedi deall y polisi.
Er eu bod nhw’n cefnogi’r polisi, dywedodd ei bod yn credu fod y polisi cyfan wedi ei ysgrifennu “ar gefn amlen”.