Peter Hain
Mae Peter Hain wedi rhybuddio y gallai datganoli pellach ei wneud yn amhosib i unrhyw Aelod Seneddol o Gymru neu’r Alban fod yn brif weinidog ar Brydain yn y dyfodol.
Byddai cynlluniau i sicrhau mai dim ond ASau o Loegr oedd yn cael pleidleisio ar faterion sy’n effeithio ar Loegr yn cyfyngu ar ddylanwad Prif Weinidog o un o’r gwledydd Celtaidd.
Fe allai hefyd arwain at y Ceidwadwyr yn ffurfio llywodraeth hyd yn oed pan oedd gan y Blaid Lafur fwyafrif yn San Steffan.
Rhybuddiodd y byddai hynny yn creu problemau cyfansoddiadol mawr ac o bosib yn arwain at ddiwedd y Deyrnas Unedig.
Daw ei sylwadau wedi i Weinidog Swyddfa’r Alban, David Mundell, gadarnhau fod y Llywodraeth yn bwriadu sefydlu comisiwn er mwyn ystyried ‘Cwestiwn Gorllewin Lothian’.
“Fe fyddai yn creu trafferthion mawr o fewn y Deyrnas Unedig, ac o bosib yn ei ddinistrio,” meddai Peter Hain wrth bapur newydd y Western Mail.
“Mae Ceidwadwyr Lloegr yn gwybod mai’r unig obaith sydd ganddyn nhw o ennill yn gyson yw gwahanu Cymru a’r Alban o Loegr.
“Os na fyddai Aelodau Seneddol o Gymru a’r Alban yn cael pleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â Lloegr fe fyddwn nhw’n cael eu hystyried yn israddol i ASau Lloegr.”
Ceidwadwyr
“Ni fyddai yna siawns y byddai unrhyw AS o Gymru neu’r Alban yn Brif Weinidog eto,” meddai AS Castell-nedd. “Ni fyddai yna unrhyw Lloyd George na Jim Callaghans.
“Hyd yn oed pe bai’r Ceidwadwr mwyaf blaenllaw yn digwydd cynrychioli sedd yng Nghymru, fyddai byth yn cael ei ddewis yn arweinydd y blaid.
“Mae hefyd yn bosib y gallai’r Blaid Lafur ennill etholiad cyffredinol, ond y byddai gan y Ceidwadwyr mwyafrif yn Lloegr.
“Pe bai hynny yn digwydd byddai’r Frenhines yn gorfod croesawu arweinydd y Ceidwadwyr i ffurfio llywodraeth.”
Ychwanegodd nad oedd yn credu mai senedd ar wahân i Loegr oedd yr ateb, ond ei fod yn ffyddiog y byddai rhanbarthau Lloegr yn fodlon pleidleisio o blaid eu senedd-dai rhanbarthol eu hunain erbyn hyn.