Ed Balls
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r Blaid Lafur am beidio a chefnogi mesur a fyddai wedi gostwng Treth ar Werth ar draws Prydain.

Roedd Plaid Cymru wedi cynnig gwelliant i’r Mesur Cyllid yn Nhŷ’r Cyffredin fyddai wedi arwain at ostyngiad mewn TAW o 20% i 17.5%.

Roedd canghellor yr wrthblaid yn San Steffan, Ed Balls, wedi dadlau o blaid gostwng TAW ond ni wnaeth ASau y Blaid Lafur gefnogi y gwelliant, meddai Plaid Cymru.

Galwodd Ed Balls am adolygiad o’r gyfradd bresennol yn lle, a mae Plaid wedi eu cyhuddo o “anhrefn ynghylch eu polisi ar Dreth ar Werth”.
“Mae’r Blaid Lafur mewn anhrefn llwyr ynghylch TAW,” meddai ‘r AS Jonathan Edwards.

“Llynedd, fe ddywedasant eu bod yn derbyn codiad y ConDemiaid o TAW i 20% ond ymatal a wnaethant yn y bleidlais, serch hynny.

“Eleni, mae Ed Balls yn dadlau’n gyhoeddus y dylem gael toriad dros dro i helpu teuluoedd a busnesau bychain sy’n ei chael yn anodd – ond yn y Senedd, bydd yn gofyn yn unig am adolygiad yn hytrach na chefnogi ein cynnig ni.

“Mae TAW yn dreth atchweliadol iawn sydd yn brifo’r sawl sydd ar waelod cymdeithas waethaf.

“Gyda thwf economaidd yn llesg, a TAW yn nodwedd fawr o chwyddiant sydd ymhell uwchlaw’r targed, byddai toriad dros dro mewn TAW yn helpu teuluoedd sydd dan bwysau ariannol.

“Mae chwyddiant uchel yn cael effaith ar bobl ar incwm sefydlog, megis pensiynwyr a phobl ar fudd-daliadau, sy’n golygu eu bod wedi eu taro ddwywaith dros y flwyddyn a aeth heibio – ac y mae hynny cyn i agenda’r toriadau gychwyn.”