Ynys Echni
Fe fydd y dafarn fwyaf deheuol yng Nghymru yn cael ei agor yfory ar Ynys Echni, sydd oddi ar arfordir Bro Morgannwg.
Bydd tafarn The Gull and Leek yn agor ar yr ynys, a fu unwaith yn gartref i fynachod ac sydd tua thair milltir a hanner o Larnog, Bro Morgannwg.
Mae Ynys Echni yn cael ei gweinyddu fel rhan o Gymru, a hi felly ydyw’r lle mwyaf deheuol yn y wlad, gan fod Ynys Ronech gerllaw yn rhan o Loegr.
Bydd y dafarn yn cael ei hagor gan Faer Caerdydd, Delme Bowen, yfory.
Yn ogystal a’r dafarn mae siop, bythynod, ffermdy a goleudy 30m o uchder ar yr ynys.
Bydd y dafarn, a oedd yn arfer bod yn hen wersyllty Fictoriainaidd yn cynnig cwrw a gwin i’w cwsmeriaid.